Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
8 Mawrth – 29 Mawrth 2023
Digwyddiad math 4 x gweminarau 2 awr
10:00 am – 12:00 pm
Mae’r prisiau ar gyfer y pedair sesiwn – £20 i Aelodau, £40 i’r rhai nad ydynt yn Aelodau
Wedi’i ddatblygu gan ACAMH, Hyfforddiant Plant a Theuluoedd y DU (C&FT), a Gwell Dyfodol (IF) mae’r dull hyfforddi hwn yn seiliedig ar hyfforddiant peilot a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Gaint i fynd i’r afael ag ymatebion trawmatig Plant a Phobl Ifanc ar eu Pen eu Hunain sy’n Ceisio Lloches (UASC) yn uniongyrchol, a hyfforddiant i ofalwyr maeth UASC i fynd i’r afael â hwy. Mae’r dulliau a ddatblygwyd yn berthnasol i’r holl Blant a Phobl Ifanc wedi’u Mabwysiadu ac sy’n Derbyn Gofal o ystyried y profiadau trawmatig helaeth a ddioddefir gan lawer o Blant a phobl ifanc wedi’u Mabwysiadu, sy’n Derbyn Gofal, a byddant yn sail i’r seminarau.
- Seminar 1: Pennu Anghenion Plant sy’n Derbyn Gofal a’r Model 4D Ymdrin â Gofid (Mansell, Urmson a Mansell 2020) (Dydd Mercher 8 Mawrth)
- Seminar 2: Traed Chwim Ymlaen – protocol i fynd i’r afael â Thrawma Cymhleth Plant sy’n Derbyn Gofal (dydd Mercher 15 Mawrth)
- Sesiwn 3: Datblygu sgiliau i fynd i’r afael â Phryder a Bygythiad, Hwyliau Isel ac Ymddygiad Aflonyddgar (Dydd Mercher 22 Mawrth)
- Sesiwn 4: Creu Naratif Trawma i ymdopi â Phrofiadau Trawmatig a Phrofiadau Niweidiol mewn Bywyd (Dydd Mercher 29 Mawrth)
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.