Cyflwynydd: Dr Laura Cowley & Dr Lucy Griffiths, Swansea University

Amser: 12:30 – 14:00

Dyddiad: 04/10/23

Lleoliad: ZOOM, Online

Mae’r cyflwyniad hwn yn darparu tystiolaeth empirig newydd am lwybrau mynediad i ofal, llwybrau drwy ofal, a deilliannau lleoliadau ar gyfer y plant ieuengaf un yn y system ofal yng Nghymru. Drwy fynd i’r afael â chwestiynau am lwybrau gwirfoddol a gorfodol i ofal, mae’n uniongyrchol gysylltiedig â chwestiynau a godwyd yn adroddiad terfynol y Gweithgor Cyfraith Gyhoeddus (2021) a sefydlwyd gan Lywydd yr Is-adran Teulu ynghylch tueddiadau yn y defnydd o lety gwirfoddol i fabanod. Ceir cwestiynau o hyd am rinweddau a moeseg llwybrau gwirfoddol a gorfodol i ofal, ond mae tystiolaeth am y defnydd go iawn o opsiynau cyfreithiol gwahanol wedi bod yn gyfyngedig. At hynny, mae’r dystiolaeth wedi bod yn lled gyfyngedig ynghylch y llwybrau a’r deilliannau y tu hwnt i lwybrau mynediad gwahanol i ofal.

Defnyddiodd y tîm ddata ar lefel y boblogaeth y bydd awdurdodau lleol yn ei gasglu’n rheolaidd ac sy’n rhan o Gyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal Llywodraeth Cymru, i ddeall profiad a deilliannau gofal babanod. Y prosiect hwn yw’r cyntaf i ddefnyddio’r cyfrifiad hwn i lunio canfyddiadau cadarn a disgrifiadol am fabanod sy’n mynd i ofal yng Nghymru. Mae canfyddiadau ynghylch babanod sy’n mynd i ofal yn cael eu cyflwyno’n genedlaethol, yn rhanbarthol (cylchdaith y llysoedd) ac ar lefel yr  awdurdodau lleol, gan ddefnyddio cofnodion ar lefel plant sy’n rhychwantu cyfnod o 18 mlynedd.

ExChange Wales is not Responsible for any external content or resources.