Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein digwyddiad i lansio cyfres cynadleddau ExChange Cymru yn ystod haf 2021 ym maes Lles. Yn y fideo hwn, mae Dr Jen Lyttleton-Smith o Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Dr Pippa Anderson o Brifysgol Bangor yn rhannu eu gwybodaeth am bwysigrwydd lles ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r cyflwynwyr yn gyd-arweinwyr ar gyfer y Gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gwyliwch y fideo nawr;