Ysgrifennwyd gan Cangen Llesiant a Gwella yn Llywodraeth Cymru
Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (‘y Ddeddf’) i rym ym mis Ebrill 2014. Mae’r Ddeddf yn darparu’r fframwaith ar gyfer gwella lles pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen gofal, yn ogystal â thrawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Fel rhan o ddatblygiad y Ddeddf, yn 2016 sefydlodd yr Is-adran Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwella o fewn Llywodraeth Cymru gyfres o ddangosyddion perfformiad, mesurau a fframweithiau canlyniadau i fesur effaith y Ddeddf ar ganlyniadau llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth.
Mae anghenion llesiant y bobl sy’n derbyn cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol yn flaenoriaeth allweddol yn Llywodraeth Cymru. Gyda hyn mewn golwg aethom ati i ddatblygu Fframwaith Perfformiad a Gwella mwy cynhwysfawr sy’n cysylltu â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ogystal â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Yr ymagwedd newydd
Nod yr ymagwedd newydd yw annog dealltwriaeth fanylach o brofiadau unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol ac effaith y gwasanaethau hyn. Trwy gael gwell dealltwriaeth fel hyn, gallwn gefnogi gwelliant o fewn y sector er mwyn gallu gwella canlyniadau llesiant unigolion sy’n derbyn gofal a chymorth yn y pen draw.
Datblygwyd yr ymagwedd newydd i ganolbwyntio ar berfformiad a gwella yn gyfartal. Mae’n cynnwys datblygu Safonau Ansawdd newydd ochr yn ochr â Fframwaith Perfformiad a Gwella newydd.
Mae’r fframwaith perfformiad a gwella newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn cynnwys y cod ymarfer yn ogystal â chyfres o ddogfennau canllaw. Mae’r fframwaith a’r canllawiau ategol yn dwyn ynghyd nifer o elfennau allweddol mewn un pecyn cymorth i awdurdodau lleol ei ddefnyddio yn eu dealltwriaeth o sut mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu’n lleol ac yn genedlaethol a’r effaith y mae’n ei gael ar lesiant unigolion yng Nghymru. Bydd yn canolbwyntio ar dri maes allweddol; Mesur Gweithgaredd a Pherfformiad, Deall Profiad a Chanlyniadau a Defnyddio Tystiolaeth i Sbarduno Gwella.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn y sector i gasglu data a thystiolaeth ansawdd uchel fel y gallwn gyda’n gilydd ddeall yn iawn a gwella sut mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu ledled Cymru yn ogystal ag asesu’r effaith y mae hyn yn ei gael ar lesiant y bobl sy’n byw yng Nghymru.