Gan Sarah Meakings, Amanda Coffey a Katherine Shelton 

British Journal of Social Work, 50 (5), tt. 1324-1344

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Dr David Wilkins

Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth?

Mae’r papur hwn yn edrych ar sut mae mabwysiadu yn effeithio ar berthnasoedd brodyr a chwiorydd, yn eu gwahanol ffurfiau. 

Sut yr astudion nhw’r pwnc?

Adolygwyd cofnodion ffeiliau achos 374 o blant a osodwyd i’w mabwysiadu yng Nghymru yn ddiweddar. Yn ogystal, cwblhaodd 96 o rieni mabwysiadol holiadur, a chyfwelwyd â 40 o’r rhieni hyn hefyd. Cwblhawyd yr holiaduron bedwar mis ar ôl i’r plentyn gael ei fabwysiadu, a chynhaliwyd y cyfweliadau bum mis yn ddiweddarach. 

Beth oedd eu canfyddiadau?

Canfu dadansoddiad o gofnodion y ffeiliau achos fod gan y mwyafrif o’r plant a gafodd eu mabwysiadu (n = 325, 87%) o leiaf un brawd neu chwaer, a bod traean (n = 122, 33%) wedi’u mabwysiadu fel rhan o grŵp o frodyr a chwiorydd. O sampl yr holiadur, gosodwyd bron i draean (n = 29, 30%) i’w fabwysiadu fel rhan o grŵp o frodyr a chwiorydd, ac roedd gan y mwyafrif (n = 81, 84%) o leiaf un brawd neu chwaer yn byw yn rhywle arall. Crëwyd perthnasoedd brodyr a chwiorydd newydd mewn bron i draean o’r teuluoedd (n = 28, 29%). Adroddwyd bod perthnasoedd â brodyr a chwiorydd yn rhoi cwmnïaeth, sicrwydd a chysur i’r plant. Fodd bynnag, roedd rhieni hefyd yn poeni am lefelau annisgwyl o anghytgord rhwng y brodyr a chwiorydd, a chanfyddiadau o ddeinameg niweidiol. Disgrifiodd sawl un mai’r hyn a oedd yn nodweddiadol am y berthynas rhwng brodyr a chwiorydd oedd cenfigen ffyrnig. Cafwyd rhai adroddiadau o drais corfforol rhwng brodyr a chwiorydd. Yn achos plant mabwysiedig â brodyr a chwiorydd trwy enedigaeth sy’n byw yn rhywle arall, siaradodd rhieni’n angerddol am bwysigrwydd cynnal cyswllt ystyrlon, er nad oedd lleiafrif llai eisiau hyn oherwydd pryderon ynghylch diogelwch mewn perthynas â theuluoedd trwy enedigaeth yn fwy cyffredinol. Roedd yr holl rieni a oedd am hyrwyddo cyswllt brodyr a chwiorydd yn teimlo bod angen help arnynt gan yr awdurdod lleol hwyluso hynny. Dywedodd rhai fod yn rhaid iddynt annog gweithwyr cymdeithasol i helpu, a gwnaeth rhai eraill nodi diffyg cefnogaeth amlwg. 

Beth yw’r goblygiadau?

Nid yn unig y mae gan y broses fabwysiadu botensial i dorri a chreu perthnasoedd rhwng gofalwr a phlentyn, mae hefyd yn torri ac yn creu perthnasoedd rhwng plant a phlant. Mae angen i weithwyr cymdeithasol gydnabod a gwerthfawrogi pwysigrwydd perthnasoedd brodyr a chwiorydd i blant mabwysiedig, ac mae angen i awdurdodau lleol feddwl yn ofalus pa gymorth y maent yn ei gynnig i deuluoedd sy’n mabwysiadu er mwyn hyrwyddo a hwyluso cyswllt rhwng brodyr a chwiorydd. 


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan

Dr David Wilkins