Mae tymor yr Hydref wedi bod yn un prysur i Dîm Addysg Leicestershire Cares. Gyda rheoliadau COVID mewn ysgolion wedi’u cadw, dros dro, i’r isafswm, a llai o brofi-yn-yr-ysgol am covid, bu llai o amharu ar y dysgu a chyflwynwyd ein holl ddigwyddiadau yn ôl y bwriad gyda chymysgedd o ddigwyddiadau yn yr ysgol ac o bell.
Cyflwynodd y tîm un ar ddeg o ddigwyddiadau ffug-gyfweliadau gyda chwe ysgol. Roedd un o’r rhain yn ddigwyddiad wyneb yn wyneb, a gyflwynwyd yn yr ysgol yn The Long Field Academy. At ei gilydd, trwy’r un ar ddeg digwyddiad hyn, bu i 860 o fyfyrwyr gael eu cefnogi gan 116 o wirfoddolwyr.
Cynhaliwyd hefyd, bum sesiwn gyflogadwyedd mewn ysgolion/colegau (chwim siaradwyr a gweithdai CV) gyda phum gwirfoddolwr o wahanol fusnesau. Tri ar-lein, gan ymgysylltu â 293 o bobl ifanc. Sesiwn drafod gyrfaoedd a pharatoi ar gyfer cyfweliadau ar gyfer myfyrwyr SEND 18+ oed, oedd un o’r rhain, yng Ngholeg Sense, Loughborough; bu i’r sesiwn hon ddigwydd wyneb yn wyneb.
Lansiwyd her Mathemateg The Numbers Partners, unwaith eto ar gyfer Myfyrwyr Cynradd ar draws Caerlŷr a Swydd Gaerlŷr ac unwaith eto disgyblion Academi Gynradd Queensmead oedd yr enillwyr, a’r wobr – cyfres o gemau Mathemateg ar gyfer eu hysgol.
Lansiodd y tîm brosiect newydd hefyd a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Thomas Pocklington i ddatblygu ac addasu eu gweithgareddau a’u hadnoddau rhaglenni addysg i sicrhau eu bod yn gynhwysol o ran anghenion pobl ifanc sydd â nam ar eu golwg. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, gweler eu herthygl yma A Focus on the Future.
Ail-lansio Go for Reading
Maent hefyd yn ail-lansio cynllun Go For Reading, gyda gwirfoddolwyr yn cael eu paru â disgyblion i fentora darllen mewn ysgolion, o dymor yr haf ymlaen. Go for Reading Relaunch 2022 | Leicestershire Cares
I gael gwybod rhagor Education Team | Leicestershire Cares
I gael gwybodaeth am sut i gymryd rhan yn unrhyw un o’n prosiectau addysg, cysylltwch â
helen@leicestershirecares.co.uk
Cafodd y blog hwn ei gyhoeddi’n wreiddiol yn y Leicestershire Cares Newsletter
#TogetherWeCan