3 Mawrth 2022 10:00-11:00am

CYFRES O WEMINARAU TLODI: Sesiwn 6

Hybiau Cymorth Cymunedol Gogledd Cymru – adeiladu cydnerthedd personol a chymunedol yn erbyn effeithiau tlodi

Mae Plant yng Nghymru yn falch iawn o weithio ochr yn ochr â chynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflwyno’r weminar nesaf yn ein cyfres sy’n gysylltiedig â thlodi.

Yn y weminar hon cewch wybod sut mae cyfres o brosiectau peilot bach, a weithredwyd yn ystod y pandemig, wedi gwneud marc yn eu cymunedau.

Gan ddefnyddio darparwyr gwasanaethau presennol mewn cymunedau, mae gan y canolfannau rwydwaith o dua 140 o sefydliadau trydydd sector ac wedi bod yn ‘one-stop-shop’ yn gorfforol ar gyfer dros 20,000 o drigolion yn ystod y chwe mis diwethaf.

Dysgwch fwy am yr hyn sy’n gwneud y canolfannau hyn yn wahanol a sut y gall cymunedau sefydlu canolfannau eu hunain i helpu i dorri’r cylch tlodi cenedlaethau, dros amser.

Siaradwr:
Lisa Goodier yw Rheolwr Arweiniol Diogelu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru. Mae ganddi gefndir yn gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau, Gwasanaeth Carchardai, awdurdod lleol a’r sectorau preifat a gwirfoddol.

Enghreifftiau o Arfer Cadarnhaol – Allwch chi helpu?

A ydych yn gweithio i liniaru effaith tlodi i blant, pobl ifanc a theuluoedd, drwy arfer lleol, polisi neu brosiectau? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed amdano. 

Rydym yn chwilio am enghreifftiau o bob rhan o Gymru y gallwn eu rhannu gyda chynulleidfa eang drwy ein cyfres o weminarau sy’n gysylltiedig â thlodi. Croesewir pob enghraifft waeth beth fo’u maint neu leoliad, o ymwybyddiaeth staff mewnol a newid agweddau, i brosiectau cymunedol neu sirol. Mae gan bawb rôl bwysig i’w chwarae ac mae ein cynulleidfaoedd yn awyddus i ddysgu oddi wrthych.
 
I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am eich gwaith, cysylltwch â karen.mcfarlane@childreninwales.org.uk