Digwyddiad dysgu proffesiynol ar-lein i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau hanes Cymru athrawon i’w galluogi nhw i gyflwyno’r cwricwlwm newydd.

9 Mawrth 2022

3:30 PM – 5:30 PM 

Nod y gyfres hon o ddigwyddiadau dysgu proffesiynol ar-lein yw datblygu sgiliau a gwybodaeth pwnc athrawon am hanes Cymru a’u galluogi nhw i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd yn datblygu gwybodaeth athrawon o rai o ddigwyddiadau a themâu allweddol hanes Cymru. Bydd yn gwella eu sgiliau a’u helpu i ddeall a defnyddio’r adnoddau archifol digidol sy’n bodoli yng Nghymru. 

Yn y digwyddiad cyntaf, bydd staff o adrannau hanes prifysgolion ledled Cymru yn cyflwyno cyflwyniadau byr sy’n amlygu’r ymchwil ddiweddar a themâu allweddol. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar ddangos sut y gellir rhoi hanes Cymru mewn cyd-destun byd-eang, gan archwilio sut y ffurfiwyd Cymru gan ddigwyddiadau ehangach, ond hefyd sut y mae Cymru wedi cyfrannu at lwybr hanes byd-eang ac imperialaidd. Bydd y cyflwyniadau’n canolbwyntio ar dueddiadau a themâu eang y gellir eu haddasu a’u hymgorffori yng nghynllun y cwricwlwm. 

Bydd y trafodaethau’n trin a thrafod:

1. Cymru a’r Ymerodraeth Brydeinig 

2. Cymru a chaethwasiaeth

3. Diwydiannau byd-eang Cymru

4. Cymru a’r Rhyfeloedd Byd