Digwyddiad dysgu proffesiynol ar-lein i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau hanes Cymru athrawon i’w galluogi nhw i gyflwyno’r cwricwlwm newydd.

23 Mawrth 2022

3:30 PM – 5:30 PM

Nod y gyfres hon o ddigwyddiadau dysgu proffesiynol ar-lein yw datblygu sgiliau a gwybodaeth pwnc athrawon am hanes Cymru a’u galluogi nhw i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd yn datblygu gwybodaeth athrawon o rai o ddigwyddiadau a themâu allweddol hanes Cymru. Bydd yn gwella eu sgiliau a’u helpu i ddeall a defnyddio’r adnoddau archifol digidol sy’n bodoli yng Nghymru. 

Yn yr ail weithdy hwn, bydd y gweithdai, dan arweiniad haneswyr o brifysgolion Cymru, yn trin a thrafod y gwahanol ddulliau ymchwil digidol ar gyfer hanes Cymru. Bydd hanesion lleiafrifoedd a chymdogaethau yn cael eu defnyddio i ddangos posibiliadau’r adnoddau hyn ar gyfer darganfod ffynonellau hanesyddol i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth ac ar gyfer disgyblion sy’n ymgymryd â’u dysgu eu hunain a arweinir gan ymchwiliad.

Dilynir y cyflwyniadau gan ofod trafod i athrawon fyfyrio ar sut y gallant ddefnyddio ac ymgorffori’r deunydd a’r syniadau yn eu haddysgu a’u cwricwla eu hunain.

Cadwch le yn y digwyddiad allanol hwn, yma