Cafodd Leicestershire Cares chwarter cyffrous gyda phobl ifanc yn ymgysylltu fwyfwy gyda’u sesiynau cyflogadwyedd, gan greu CVs, dysgu sut i chwilio am swyddi’n llwyddiannus, paratoi ar gyfer cyfweliadau a magu hyder.
Mae eu tîm yn cefnogi pobl ifanc mewn ffordd gyfannol iawn, gan feithrin perthnasoedd ac ymddiriedaeth gadarnhaol fel sylfaen i’n gwaith. Mae hyn wedi bod yn arbennig o bwysig i’w cyfranogwyr gan fod ansicrwydd y pandemig yn codi pryder ac yn gostwng hunanhyder y rhai oedd eisoes ymhellach i ffwrdd o’r farchnad swyddi.
Gwrandawyd hefyd ar adborth gan Grŵp Llywio Prosiect YES lle’r oedd eu haelodau busnes yn cynnig eu harbenigedd a’u profiad amhrisiadwy i’w helpu i ddeall bod angen canolbwyntio ar gefnogi ein cyfranogwyr i ddatblygu eu sgiliau personol.
O ganlyniad, maen nhw’n lansio rhaglen gyflogadwyedd 6 wythnos newydd o ddiwedd mis Ionawr fydd yn cyfuno gweithdai cyflogadwyedd safonol fel llunio CV, Paratoi at Gyfweliad Chwilio am Waith, yn ogystal â sesiynau Datblygu Personol a Sgiliau Personol. Gyda chymorth eu gwirfoddolwyr rhyfeddol maen nhw hefyd yn gobeithio parhau gyda Sgyrsiau Gyrfa, Teithiau Byd Gwaith, adolygu ac adborth ar CV a Ffug Gyfweliadau.
Er mwyn ymdrin â’r angen a nodwyd yn y Bobl Ifanc am gymorth lles meddyliol, ffurfiwyd partneriaeth gyda The Way of the Horse a lansiwyd prosiect peilot o’r enw Project Pony, rhaglen dri mis o gymorth lles a datblygu personol gyda dulliau’n defnyddio ceffylau. Yn ystod y rhaglen, caiff pobl gynnig cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau myfyriol a meithrin eu hyder gyda cheffylau. Mae’r rhain wedi’u cynllunio i roi’r gallu i bobl reoli unrhyw symptomau o orbryder ac iselder ac i ddod yn fwy gwydn.
Maen nhw’n ddiolchgar i aelodau busnes, partneriaid cyflawni a phob sefydliad sydd wedi cefnogi Prosiect YES hyd yma! Mae eu hamser a’u hymrwymiad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r bobl ifanc sy’n gorfod goresgyn llawer o rwystrau i gael gwaith.
Gyda’n gilydd llwyddwyd i helpu i bontio’r bwlch a chwalu’r rhwystrau i lawer o bobl ifanc, a byddan nhw’n parhau i weithio mewn partneriaethau i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl.
Cysylltwch â ross@leicestershirecares.co.uk am ragor o wybodaeth am sut i gymryd rhan
Postiwyd y blog hwn yn wreiddiol ar gylchlythyr Leicestershire Cares.
#TogetherWeCan