‘Marks of an Unwanted Rainbow’: Llyfr newydd sy’n dogfennu profiadau o’r system gofal sy’n cael eu cyfleu drwy gelf a barddoniaeth

Siobhan Maclean

Roedd Paul Yusuf McCormack i’w weld yn gawr o ddyn ymhlith y rhai â phrofiad o fod mewn gofal. Tyfodd Paul i fyny mewn cartrefi gofal yn ystod y 60au a’r 70au, er na wnaeth ddisgrifio hyn erioed fel ‘gofal’. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd Paul ei gam-drin yn gorfforol, yn rhywiol ac yn emosiynol, a chafodd hyn effaith fawr a pharhaol ar ei fywyd yn oedolyn. Nid tan iddo ddod yn 52 oed y gwnaeth Paul, o’r diwedd, ryddhau’r holl boen ar gadw y tu ôl i’r waliau amddiffynnol a adeiladodd yn ystod ei blentyndod trawmatig.

Canolbwyntiodd Paul ar ysgrifennu a phaentio fel ffordd greadigol o gyfleu ei deimladau a’r profiadau a gafodd yn ystod ei fywyd cynnar. Mae casgliad o’i waith i’w weld yn ‘Marks of an Unwanted Rainbow’. Yn y llyfr hwn mae 52 cerdd a llawer mwy o ddarnau o waith celf sy’n dangos taith anhygoel ac ysbrydoledig Paul. Bu farw Paul o COVID-19 ychydig wythnosau cyn i’r llyfr gael ei gwblhau. Mae ei ffrind a’i gydweithiwr, Siobhan Maclean, wedi gweithio gyda’i ffrindiau a’i deulu i gwblhau’r llyfr a rhannu gwaith Paul gyda’r byd. Galwodd Paul ar bob un ohonom i wneud gwahaniaeth.

Mae recordiad o ddigwyddiad lansio’r llyfr newydd hwn ar gael

I gael rhagor o wybodaeth am y llyfr hwn, ewch

Siobhan Maclean – Gweithiwr Cymdeithasol Cofrestredig – @SiobhanMaclean – siobhan@kirwinmaclean.co.uk