Mae mamau newydd wedi bod yn rhannu eu profiadau o fagu plant yn ystod y pandemig fel rhan o ymgyrch newydd sy’n datblygu’r ymennydd o’r enw Edrychwch, Dywedwch, Canwch, Chwaraewch, a gaiff ei lansio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg er mwyn helpu rhieni i gefnogi datblygiad eu babi. Yma, mae Emma Motherwell o’r NSPCC yn esbonio’r wyddoniaeth y tu ôl i’r ymgyrch.
Dros y 14 mis diwethaf mae rhieni wedi wynebu llawer iawn o darfu ar grwpiau babanod, chwarae meddal a mynediad i feysydd chwarae. Mae llawer o’r rhieni rydym wedi siarad â nhw wedi bod yn ystyried yr effaith hirdymor y bydd hyn wedi’i chael ar eu babi, yn ogystal â’r ffaith eu bod wedi rhyngweithio llai â theulu a ffrindiau.
“Mae’n wych cael babi ac mae’n llawer o hwyl, ond mae’n waith caled iawn. Dydyn ni ddim wedi cael swigen gefnogaeth – dim ond fi a fy ngŵr. Dydy Shepherd ddim hyd yn oed wedi cwrdd â neb o fy nheulu eto, felly mae hynny wedi bod yn anodd. Rwy’n credu bod pethau fel methu â chael boreau coffi neu ddosbarthiadau babanod wedi bod yn anodd iawn.” – Mae Helen o Fro Morgannwg yn fam i Shepherd, sy’n 19 wythnos oed.
Yn yr NSPCC, mae ein hymchwil yn dangos cynifer o rieni a darpar rieni nad ydynt yn ymwybodol y gall y rhyngweithio â’u babi newydd ar adegau fel chwarae, canu neu amser stori gyfrannu at ddatblygu’r ymennydd. O adeg genedigaeth, bob tro y bydd rhieni’n siarad, yn canu ac yn chwarae gyda’u babi, nid yn unig y byddant yn bondio – byddant yn helpu i ddatblygu ymennydd eu babi hefyd.
Er mwyn helpu i roi tawelwch meddwl i rieni a magu eu hyder, ar adeg pan fo’r pandemig wedi rhoi pwysau ychwanegol ar deuluoedd, mae elusen NSPCC Cymru yn lansio ei hymgyrch Edrychwch, Dywedwch, Canwch, Chwaraewch mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a Mudiad Meithrin.
Mae’r ymgyrch, sy’n datblygu ymennydd babanod, yn tynnu sylw rhieni at y ffyrdd y gall rhyngweithio â’u babi newydd yn ystod gweithgareddau beunyddiol ei helpu i ddatblygu. Caiff rhieni eu hannog i edrych ar yr hyn y mae eu babi’n canolbwyntio arno a‘r ffordd y mae’n ymateb, dweud beth mae’n ei wneud a chopïo’r synau y mae eu babi yn eu gwneud, canu eu hoff gân neu chwarae gemau syml a gweld beth mae eu babi yn ei fwynhau.
Fel y mae gwyddoniaeth datblygiad cynnar yr ymennydd yn ei ddweud wrthym, mae ymennydd plentyn yn gwneud miliwn o gysylltiadau niwral bob eiliad ac mae’r rhyngweithio rhwng y babanod a’u rhieni a anogir drwy Edrychwch, Dywedwch, Canwch, Chwaraewch yn helpu i ddatblygu blociau adeiladu datblygiad cynnar yr ymennydd. Mae’r profiadau cadarnhaol a chefnogol hyn gyda rhieni a gofalwyr yn helpu plant i ddysgu sut i reoli eu hemosiynau, ymdopi â straen a dysgu sgiliau newydd sy’n sylfaen ar gyfer bywyd fel oedolyn.
Mae teuluoedd wedi bod yn treialu awgrymiadau a gweithgareddau’r ymgyrch ac maent wedi nodi newid yn natblygiad eu babi a’u hyder eu hunain fel rhieni.
“I mi, roedd rhai gweithgareddau nad oeddem ni erioed wedi’u gwneud o’r blaen – roedd rhai roeddem ni wedi’u gwneud mewn dosbarthiadau canu ac iaith arwyddion, ac mae yna rai y byddwch chi’n eu gwneud yn naturiol. Roedd yn cadarnhau eich bod yn gwneud y peth iawn ac yn egluro pa iaith i’w defnyddio gyda’ch babi, gan weld beth yw ei ymateb hefyd, sy’n ddiddorol iawn. Rydym ni’n ymgorffori’r gweithgareddau yn ein trefn ddyddiol, felly byddwn ni’n gwneud y gweithgaredd sy’n ymwneud ag emosiynau gwahanol pan fydd yn y bath os bydd yn mynd ychydig yn ofidus. Rydym ni wedi bod yn gwneud y gweithgareddau ers ychydig wythnosau ac mae’n ddiddorol gweld cymaint o gynnydd roedd wedi’i wneud hefyd, gyda sgiliau fel gafael a chyswllt llygad.” – Mae Rebecca o Gaerffili yn fam i Owen, sy’n chwe mis oed.
“Roedd y wyddoniaeth sy’n egluro sut y bydd pob gweithgaredd yn helpu datblygiad ei ymennydd neu ei ddatblygiad personol yn galonogol iawn, ac yn bendant roedd wedi rhoi mwy o hyder i mi wrth chwarae gydag ef. Byddwn i’n ei argymell, yn bendant. Rwy’n credu bod llawer o bethau’n ymddangos yn bwysig ac yn frawychus ac yn newydd i rieni newydd, ond mae’n galonogol bod hyn i gyd yn syml iawn a bod dim byd yn gymhleth – does dim rhaid i chi allu canu’n dda na dim byd o’r fath.
Un o’r pethau y gwnaethom ni eu dysgu oedd cân lle mae’n rhaid i chi wenu ar y babi, wedyn gwneud wyneb trist, wedyn wyneb cysglyd, ac wedyn rhywbeth swnllyd. O wybod bod hynny wir yn datblygu ei sgiliau personol ac yn gwella ei ddeallusrwydd emosiynol, mae hynny wir wedi aros yn fy nghof. Rwyf wrth fy modd yn dysgu’r math hwnnw o beth, a pho fwyaf rwy’n ei wybod am hynny, y mwyaf rwy’n ei fwynhau” – Helen
Yn ddiweddar, gwnaethom rannu ymgyrch Edrychwch, Dywedwch, Canwch, Chwaraewch â dwsinau o ymarferwyr blynyddoedd cynnar ac ymwelwyr iechyd ledled Caerdydd a’r Fro, ac mae’r ymateb wedi bod yn wych hyd yma. Gobeithio y bydd ein hymgyrch Edrychwch, Dywedwch, Canwch, Chwaraewch yn helpu rhieni i fondio â’u plant ac yn rhoi tawelwch meddwl iddynt drwy rannu’r wyddoniaeth sy’n sail iddi. Mae’r awgrymiadau i gyd yn ymwneud â’r hwyl y gallwch ei chael gyda phethau sydd wrth law yn y tŷ, yn hytrach na chreu cost ychwanegol neu ychwanegu at y rhestr o bethau y mae’n rhaid i rieni eu gwneud eisoes.
“Mae ymgyrch Edrychwch, Dywedwch, Canwch, Chwaraewch yn ddull mor syml, ac mae’r rhieni rwyf wedi gweithio gyda nhw wir wedi ymateb yn dda iddi. Mae’n wych siarad â nhw am weithgareddau y gallant eu gwneud yn hawdd, heb fod angen teganau drud, a’u helpu i ddeall sut mae’r holl bethau bach y maent yn eu gwneud yn datblygu ymennydd eu babi. Rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio’r dull hwn gyda mwy o deuluoedd a byddwn yn ei argymell yn gryf i bobl eraill.” – Kathryn James, ymwelydd iechyd sy’n gweithio yng Nghaerdydd
“Mae’r dull yn wych, am ei fod mor hawdd i bob teulu ei ddilyn, waeth beth fo’r gyllideb. Cafwyd ymateb da iawn gan deuluoedd yn rhithwir ac yn ystod ymweliadau cartref. Gyda’r ymweliad cartref a gynhaliais, roedd y fam wedi’i synnu’n fawr gan fod ei bachgen bach fel arfer yn gwibio o un gweithgaredd i’r llall, ac roedd hi wir yn synnu at ba mor hir yr eisteddodd yn gwneud y gweithgaredd hwnnw ac yn ymddiddori ynddo. Un o’r manteision yw pa mor syml ydyw. Weithiau, gall fod angen i ni fynd â bag mawr o weithgareddau amrywiol gyda ni i sesiynau, ond mae Edrychwch, Dywedwch, Canwch, Chwaraewch yn syml ac yn effeithiol iawn.” – Abigail Atkinson, Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar ar gyfer Dechrau’n Deg Bro Morgannwg
“Mae ymgyrch Edrychwch, Dywedwch, Canwch, Chwaraewch yn adnodd defnyddiol iawn y gallwn ei ddefnyddio i siarad am ddatblygiad, bondio, cydberthnasau teuluol a chael hwyl. Mae’n ffordd hawdd i deuluoedd gefnogi datblygiad eu babi a chael y profiadau hyfryd hyn gyda’u plant, ac mae’n hawdd iawn ei hymgorffori yn ein rhaglen Dechrau’n Deg.
“Yn fy marn i, mae wedi bod yn fuddiol iawn ac rwy’n bendant yn mynd i barhau i’w defnyddio. Mae cymaint o ffyrdd hyfryd y gallwn hyrwyddo a chyflwyno’r ymgyrch hon i’n teuluoedd, ac rydym wedi cael ymatebion cadarnhaol iawn gan weithwyr iechyd proffesiynol a theuluoedd.” – Donna Peachey, Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar ar gyfer Dechrau’n Deg Caerdydd
Gall y rhieni gofrestru i gael awgrymiadau Edrychwch, Dywedwch, Canwch, Chwaraewch wythnosol dwy wefan yr NSPCC . Bydd pob un yn cynnwys awgrym difyr sy’n addas i’r oedran y gallant ei ymgorffori yn eu trefn ddyddiol yn hawdd.
Enghreifftiau o weithgareddau Edrychwch, Dywedwch, Canwch, Chwaraewch
Edrych i’w lygaid – treuliwch ychydig funudau yn edrych i lygaid eich plentyn. Wrth iddo edrych yn ôl, gwenwch a siaradwch ag ef neu hi. Gwnewch yr hyn y mae’r plentyn yn ei wneud. Os bydd yn amrantu, amrantwch chi hefyd. Os bydd yn edrych i’r chwith, edrychwch chi i’r chwith hefyd.
Y wyddoniaeth – Pan fydd eich plentyn yn edrych arnoch, a chithau’n ymateb, bydd yn creu cysylltiadau newydd yn ei ymennydd. Pan fyddwch yn edrych ar eich gilydd ac ymateb i’ch gilydd, bydd y bond rhyngoch yn tyfu’n gryfach.
Golchi gwirion – dywedwch wrth eich plentyn “Beth am i ni olchi dy ddwylo” ond dechreuwch olchi ei draed. Beth mae’n ei wneud? Yna dywedwch “O! Dy draed yw’r rhain. Ble mae dy ddwylo? ” Wrth iddo fynd yn hŷn, gadewch iddo arwain, gan ddefnyddio rhannau eraill o’r corff megis penelinoedd, arddyrnau a phigyrnau.
Y wyddoniaeth – mae eich plentyn yn canolbwyntio er mwyn gwrando ar eich geiriau, ac yn defnyddio’r hyn y mae’n ei wybod yn barod i chwarae’r gêm wirion hon gyda chi, a fydd yn cryfhau ei gof. Mae hefyd yn ymarfer meddwl yn hyblyg am bethau sy’n groes i’w gilydd, yn ogystal â dysgu geiriau newydd a beth maent yn ei olygu mewn ffordd hwyliog.
Canu traddodiadau – rydym yn gwneud rhai pethau bob dydd. Canwch yr un caneuon ar yr adegau hynny er mwyn egluro’r hyn rydych yn ei wneud gyda’ch plentyn. Gallai gadael ystafell, gorffen bwyta, neu olchi dwylo fod yn enghreifftiau o hyn.
Y wyddoniaeth – mae plant yn dwlu ar draddodiadau. Mae canu am eich gweithgareddau beunyddiol cyffredin yn rhoi cysur trefn gyfarwydd. Mae hefyd yn helpu eich plentyn i greu cysylltiadau rhwng y profiadau hyn a geiriau newydd. Bydd wrth ei fodd yn dysgu iaith drwy eich clywed chi’n canu.
Cofiwch Edrych, Dweud, Canu, Chwarae