Canfyddiadau adroddiad astudiaeth Co-SPACE: Newidiadau mewn symptomau iechyd meddwl plant rhwng Mawrth 2020 ac Ionawr 2021
Mae’r adroddiad diweddaraf o’r astudiaeth Co-SPACE yn dangos newidiadau yn iechyd meddwl plant a phobl ifanc ymhlith sampl yr astudiaeth hyd at a chan gynnwys Ionawr 2021. Yn yr adroddiad, mae’r ffocws ar y canlyniadau iechyd meddwl canlynol fel y’u mesurir gan yr Holiadur Cryfderau ac Anawsterau (SDQ). Holiadur sgrinio ymddygiad wedi’i ddilysu’n dda yw hwn. Mae ar gael mewn sawl fersiwn sy’n caniatáu i rieni / gofalwyr adrodd (canolbwynt yr adroddiad hwn) a hefyd gall pobl ifanc adrodd amdanynt eu hunain.
Prif ganfyddiadau
Yn seiliedig ar adroddiadau rhieni/gofalwyr yn sampl Co-SPACE:
Mae anawsterau aflonydd/talu sylw, ymddygiadol ac emosiynol wedi cynyddu eto ers cyflwyno’r cyfnod clo cenedlaethol diweddaraf ym mis Ionawr. Roedd hyn yn arbennig o wir mewn plant oed ysgol gynradd (4-10 oed).
Mae plant ag SEN/niwroamrywiaeth (ND) a’r rheini o aelwydydd incwm isel neu oedolion sengl wedi parhau i ddangos symptomau iechyd meddwl uwch trwy’r pandemig, gyda lefelau uwch o anawsterau aflonydd/talu sylw, ymddygiadol ac emosiynol. Roedd peidio â chael brawd neu chwaer yn gysylltiedig â lefelau uwch o anawsterau aflonydd/talu sylw trwy gydol y pandemig (ond nid oedd yn gysylltiedig â gwahaniaethau mewn symptomau ymddygiad neu emosiynol).
Ewch i wefan Co-SPACE i gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth.