Gweminar: Hyrwyddo diwylliant ymchwil ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion *DYDDIAD NEWYDD*

location-iconZOOM, Online

time-icon12:00 - 08/05/2024

Hyrwyddo diwylliant ymchwil ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion – Sut rydyn ni’n gwneud penderfyniadau cadarn heb ddefnyddio’r sylfaen ymchwil?

Cyflwynir gan: Rachel Scourfield a Liza Turton, Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Dyddiad: Dydd Mercher 8 Mai

Amser: 12:00 – 13:00

Lleoliad: Ar-Lein, ZOOM

Cyflwynir gan: Rachel Scourfield a Liza Turton, Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Mae ymarfer a gyfoethogir gan ymchwil bob amser wedi bod yn safon aur ym maes gofal cymdeithasol.  Fodd bynnag, mae wedi bod yn her ers tro byd i wneud hynny yn rhan naturiol o’r ymarfer mewn timau awdurdod lleol sydd ar y rheng flaen ac yn brysur yn ymdrin â sefyllfaoedd cymhleth a chyfnewidiol.  Yn y gweminar hwn, bydd Liza Turton a Rachel Scourfield, y ddwy’n Weithwyr Cymdeithasol Ymgynghorol yng Nghastell-nedd a Phort Talbot, yn rhannu sut maen nhw’n defnyddio eu Gwobr Arweinwyr Ymchwil sy’n seiliedig ar Ymarfer y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) er mwyn creu model sy’n cefnogi staff rheng flaen, datblygu polisïau a chynlluniau strategol.

Mae’r Wobr hon wedi cefnogi prosiect Hyrwyddo Diwylliant Ymchwil a oedd wedi cydweithio â thri thîm peilot ar draws y gwasanaethau i oedolion yn yr awdurdod lleol er mwyn mynd â nhw ar y daith o gael sgwrs gychwynnol dan arweiniad Nick Andrews o DEEP, hyd at gael hyfforddiant sgiliau a sesiynau mapio achosion rheolaidd. Yn y rhain, ymchwilir i sefyllfaoedd a penderfyniadau cymhleth gan gyfathrebu’n dosturiol a defnyddio ffynonellau ymchwil at ddibenion arwain, cefnogi a llywio’r penderfyniadau cadarn. Caiff effaith y model hwn ei chrynhoi mewn adborth gan un o uwch-swyddogion y tîm peilot,

“Mae’r erthyglau wedi bod yn sbardun iddyn nhw (y gweithiwr cymdeithasol) feddwl am yr achos o safbwynt gwahanol, a hefyd sut mae ymddygiad y gofalwr tuag at y (Gweithiwr Cymdeithasol) wedi cael effaith ar ei waith gyda defnyddiwr y gwasanaethau”.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cefnogi’r prosiect unigryw hwn, a’i nod yw deall yr hyn sydd ei angen er mwyn cynnwys ymchwil a thystiolaeth yn rhan feunyddiol o’n hymarfer, ein polisïau strategol a’r ffordd rydym yn cyflawni’r rhain.