Yr Athro Donald Forrester

‘The Enlightened Social Worker: An Introduction to Rights Focused Practice’ – Lansiad Llyfr

Cyflwynydd: Yr Athro Donald Forrester

Dyddiad: 10th Ebrill 2024

Amser: 13:00 – 14:00

Lleoliad: Ar-lein, ZOOM

Awdur a chyflwynydd: Athro Gwaith Cymdeithasol Plant a Theuluoedd a Chyfarwyddwr Canolfan CASCADE ar gyfer Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhrifysgol Caerdydd yw Donald Forrester. 

Yn y gweminar hwn, mae Donald Forrester yn cyflwyno ei lyfr newydd, sy’n ystyried hawliau dynol yn ymarfer gwaith cymdeithasol canolog.

Er bod damcaniaeth gwaith cymdeithasol yn tueddu i roi pwyslais ar helpu unigolion a herio anghyfiawnder cymdeithasol, mae heriau a gwrthdaro’n nodweddu realiti ymarfer. Mae llyfr Donald Forrester yn cynnig cysyniad newydd o waith cymdeithasol sy’n egluro natur y gwrthdaro hwn ac yn symud y tu hwnt iddo, gyda gweledigaeth ysbrydoledig ac ymarferol o beth yw gwaith cymdeithasol a beth y dylai fod. 

Gan roi hawliau wrth wraidd ymarfer, mae’r llyfr o ddiddordeb i fyfyrwyr, gweithwyr cymdeithasol profiadol a’u goruchwylwyr.  Mae’n gwneud cyfraniad sylweddol i’r llenyddiaeth ddamcaniaethol sy’n pwysleisio rôl gwaith cymdeithasol pan allai hawliau wrthdaro, gan alluogi myfyrwyr ac ymarferwyr i ddod yn fwy hyderus wrth ddelio â realiti anghyfforddus ymarfer. 

Tabl Cynnwys 

Cyflwyniad 

Rhan 1: Cyflwyniad i Waith Cymdeithasol Seiliedig ar Hawliau 

  1. Yr Oleuedigaeth, Gwaith Cymdeithasol a Chynnydd  
  2. Rhyddid, Hawliau, Cydraddoldeb, Cydsafiad a Gwaith Cymdeithasol 
  3. Anghenion, Hawliau a Gwaith Cymdeithasol 

Rhan 2: Traddodiadau Deallusol Craidd ar gyfer Gwaith Cymdeithasol Seiliedig ar Hawliau 

  1. Gwaith Cymdeithasol Dyneiddiol  
  2. Y Model Cymdeithasol 

Rhan 3: Sut i Ymarfer Gwaith Cymdeithasol Seiliedig ar Hawliau 

  1. Asesu i Ddatblygu Theori 
  2. Asesiad Da: Llunio a Datrys 
  3. Asesu Newid 
  4. Arfer Da mewn Gwaith Uniongyrchol: Deialog Bwrpasol  
  5. Deialog Bwrpasol ac Awdurdod Da 
  6. Deialog Bwrpasol a Helpu Pobl 
  7. Creu Cynllun Cydweithredol 
  8. Meddyliau Terfynol a Chyfeiriad yn y Dyfodol