Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Gyfnewidfa Cymru. Mae rhestrau o ddigwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

9th May 2024
09:30 – 12:30
Online

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad rhithwir sy’n mynd i’r afael â’r mater brys o droseddau cyllyll ymhlith pobl ifanc – gadewch i ni drafod, dysgu a dod o hyd i atebion gyda’n gilydd!

Clywn ar y newyddion yn feunyddiol am bobl ifanc a throseddau cyllyll, nid yn Llundain yn unig, ond hefyd yng Nghymru. Mae pobl ifanc yn cael braw, yn cael niwed, a’r tristwch yw eu bod yn cael anafiadau marwol. Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn edrych ar y cynnydd mewn troseddau cyllyll, y tueddiadau cyfredol, y gyfraith, beth mae angen i staff ei wybod, a pha negeseuon dylen nhw fod yn eu cyfleu i bobl ifanc. Bydd yn edrych ar ffyrdd o gefnogi pobl ifanc, pryd mae atgyfeirio, a chynlluniau gweithredu sefydliadol.

Bydd y cwrs hwn yn cwmpasu:

  • Trosolwg o’r Tueddiadau Cyfredol
  • Troseddau Cyllyll a’r Gyfraith
  • Mathau gwahanol o Drais Ieuenctid
  • Seicoleg: Adwaith Brwydro, Ffoi a Rhewi
  • Y nodweddion sy’n gwneud pobl ifanc yn Fregus
  • Arwyddion ymwneud â hyn
  • Risgiau
  • Sut mae cefnogi Pobl Ifanc
  • Llwybrau atgyfeirio
  • Cynllun Gweithredu

Os ydych yn aelod o Plant yng Nghymru, cysylltwch â training@childreninwales.org.uk i dderbyn eich cod gostyngiad o 10%.