“Maen nhw’n fy ngweld o’r diwedd, maen nhw’n ymddiried ynof i, mae fy mrawd yn dod adref”: Cydnabod Cymhellion a Rôl Brodyr a Chwiorydd sy’n Dod yn Ofalwyr trwy Garennydd

Mae dealltwriaeth gynyddol o rôl gofal gan berthnasau wrth fagu plant lle na all eu rhieni wneud hynny. Mae llawer o’r straeon yn y cyfryngau a’r ymchwil gyfredol yn sôn am neiniau a theidiau sy’n camu i’r adwy ac yn dod yn ofalwr llawn amser i’w hwyrion. Fodd bynnag, gall gofalwyr sy’n berthnasau fod yn unrhyw un sydd â chysylltiad â phlentyn – modryb, cymydog, teulu ffrind gorau. Gallan nhw hefyd fod yn frawd neu’n chwaer hŷn i’r plentyn sydd angen gofalwr arall.

Mae dealltwriaeth gynyddol o rôl gofal gan berthnasau wrth fagu plant lle na all eu rhieni wneud hynny. Mae llawer o’r straeon yn y cyfryngau a’r ymchwil gyfredol yn sôn am neiniau a theidiau sy’n camu i’r adwy ac yn dod yn ofalwr llawn amser i’w hwyrion. Fodd bynnag, gall gofalwyr sy’n berthnasau fod yn unrhyw un sydd â chysylltiad â phlentyn – modryb, cymydog, teulu ffrind gorau. Gallan nhw hefyd fod yn frawd neu’n chwaer hŷn i’r plentyn sydd angen gofalwr arall.

Yn anaml y sonnir am y math hwn o deulu – lle mae plentyn yn cael ei fagu gan ei frawd neu’i chwaer hŷn –, er ein bod yn gwybod ei fod yn digwydd ledled y DU (Kinship care in England and Wales – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)) . Mae fy ymchwil PhD yn ceisio newid hyn trwy archwilio straeon y teuluoedd hyn.

Mae fy mhapur a gyhoeddwyd yn ddiweddar (Societies | Free Full-Text | “They Finally See Me, They Trust Me, My Brother’s Coming Home” Recognising the Motivations and Role of Siblings Who Become Kinship Carers (mdpi.com)) yn amlygu’r cymhellion sy’n gyrru brodyr a chwiorydd hŷn sy’n camu ymlaen i rôl rhiant pan fydd ei angen ar eu brodyr a chwiorydd iau. Mae’r papur yn cyflwyno tri math o stori sy’n amlygu sut a pham mae rhai trefniadau gofal gan frodyr a chwiorydd yn dod i fodolaeth.

Roedd rhai brodyr a chwiorydd yn cael eu hysgogi gan eu bod eisiau dod â’u brodyr a’u chwiorydd iau yn ôl i mewn i’w teulu pan fyddan nhw wedi mynd i mewn i ofal, fel Sally:

“Roeddwn i’n meddwl ‘Felly nawr bod gen i fy fflat fy hun, pam na allan nhw ddod i fyw gyda mi? Maen nhw’n frawd a chwaer i mi… nhw yw fy nheulu i”.

Roedd rhai eraill yn ceisio cadw eu brodyr a’u chwiorydd iau yn eu teulu yn hytrach na mynd i ofal, fel Claire:

Yn fy llygaid i, doeddwn i ddim eisiau iddo fynd i mewn i’r system ofal. Roeddwn i’n gwybod na fyddai’n goroesi. Roedd ganddo ddigon o broblemau beth bynnag. Roeddwn i’n meddwl, ‘Does dim ffordd mae mynd i gael yr ansefydlogrwydd hwnnw‘”.

Roedd grŵp olaf o frodyr a chwiorydd yn camu i’r adwy i fagu plant yn y cartref pan nad yw eu rhiant yn gallu darparu’r gofal y teimlon nhw oedd ei angen, fel Kelly:

“Roedd e [tad] yno yn gorfforol. O ran gofalu am y brodyr a’r chwiorydd a gwneud yn siŵr eu bod yn iawn, dyna oedd fy ngwaith i erioed….”

Mae’r teuluoedd hyn yn aml yn ceisio cydnabyddiaeth o’r rôl y maen nhw’n ei chwarae – ac yn rhy aml dydy gwasanaethau a’r gymdeithas ehangach ddim yn eu gweld nhw. Gall canlyniadau methu cydnabod brodyr a chwiorydd olygu eu bod yn cael eu hamddifadu o’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw pan fydd ei angen arnyn nhw, neu dydy’r cymorth sy’n cael ei gynnig ddim yn briodol i’w hamgylchiadau. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig lle mae brodyr a chwiorydd yn darparu gofal ond nid nhw yw’r unig oedolion yn y cartref, sy’n golygu y gallai gwaith gofal y gofalwyr hyn gael ei ddiystyru ar y rhagdybiaeth mai’r oedolion eraill yw prif ofalwyr y plant.

Pan fydd brodyr a chwiorydd hŷn yn cael eu cymryd o ddifrif a’u hystyried yn bartneriaid pwysig wrth ofalu am eu brodyr a’u chwiorydd iau a’u hamddiffyn, gall y profiad fod yn un dwys. Mynegwyd hyn mor huawdl gan Sally wrth adrodd sut roedd hi’n teimlo pan gafodd ei chymeradwyo fel gofalwr maeth i’w brawd iau:

“Y teimlad ges i oedd ‘o mam bach, maen nhw’n fy ngweld o’r diwedd, maen nhw’n ymddiried ynof i. Rwy’n gyfrifol, mae’n nhw’n mynd i roi fy mrawd i mi. Mae fy mrawd yn dod adref’”.

Wrth ddarllen y straeon a’r profiadau hyn, rwy’n gobeithio y bydd yn ysgogi ymarferwyr a llunwyr polisïau i “weld o’r diwedd” frodyr a chwiorydd wrth ystyried pwy sydd ac a ddylai fod yn rhan o’r gwaith penderfynu ar sut i gefnogi plant i aros o fewn eu rhwydwaith teuluol.

Lorna Stabler – Cydymaith Ymchwil, CASCADE, Prifysgol Caerdydd

StablerL@caerdydd.ac.uk

@lorna_stabler