Cyflwynydd: Dr Nina Maxwell, CASCADE
‘’Dyw e byth yn mynd i weithio iddo fe, mae e eisiau marw’’. Gweithio gyda rhanddeiliaid i wella ymatebion i gamfanteisio troseddol ar blant.
Cyflwynydd: Dr Nina Maxwell, CASCADE, Prifysgol Caerdydd
Dyddiad: 22 Ebrill 2024
Amser: 12:00 – 13:00
Lleoliad: Ar-Lein, ZOOM
Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o’n gwaith ar gamfanteisio troseddol ar blant yng Nghymru. Bydd yn dechrau gyda chyflwyniad byr am sut y daeth CASCADE yn rhan o’r ymchwil hwn a phwysigrwydd gweithio gyda rhanddeiliaid o’r cam dylunio ymchwil i greu deilliannau ymchwil ar y cyd.
Bydd y sesiwn yn ystyried sut y gwnaeth y tîm ymchwil ymgysylltu â phobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod yr ymchwil yn ychwanegu gwerth at arfer presennol.
Bydd y sesiwn yn gorffen gyda throsolwg beirniadol o effaith y portffolio ymchwil hwn ar bolisi a darpariaeth gwasanaeth gan gyfeirio at rai o’r allbynnau a gafodd eu creu ar y cyd.