Cyflwynydd: Yr Athro Dawn Mannay, Prifysgol Caerdydd

Crynodeb

Mae’r cyflwyniad hwn yn trin a thrafod sut y gellir defnyddio dulliau creadigol a chydweithredol fel technegau i gynhyrchu data ac i ledaenu gwybodaeth a chreu effaith. Ffocws y cyflwyniad yw astudiaeth ansoddol o brofiadau a dyheadau addysgol plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru (n=67).

Gweithiodd y prosiect gydag ymchwilwyr cymheiriaid sydd â phrofiad o ofal a defnyddiodd dechnegau gweledol, creadigol a chyfranogol i drin a thrafod profiadau 67 o blant a phobl ifanc o’u haddysg ac, yn bwysicach, eu barn ar beth y gellid ei wneud i’w gwella. Roedd y dull amlfoddol hwn yn rhoi cyfle i’r rhai a gymerodd rhan feddwl am eu profiadau goddrychol a chyffredin, ond sydd hefyd yn brofiadau pwysig, ac sy’n gweithredu ochr yn ochr â heriau mwy strwythurol ac yn rhyngweithio â hwy.

Datblygwyd ystod o ffilmiau, cylchgronau, gwaith celf ac allbynnau cerddoriaeth ochr yn ochr ag adroddiad, erthyglau llyfr a chyfnodolion, yn ogystal â gweithdai hyfforddi a gwefan, i sicrhau y gallai argymhellion y prosiect gyrraedd cynulleidfaoedd eang ac amrywiol. Mae’r cyflwyniad hwn yn awgrymu bod angen rhoi llwyfan i leisiau plant a phobl ifanc er mwyn iddynt allu llywio polisi ac arferion.

Yn unol a hynny, mae angen i ymchwilwyr fod yn greadigol yn eu dulliau gweithredu o ran gwaith maes a lledaenu gwybodaeth, gan ddefnyddio pŵer y celfyddydau i wneud newidiadau cadarnhaol ym mywydau bob dydd plant a phobl ifanc. 

Bywgraffiad

Mae Dawn Mannay yn Athro Methodolegau Ymchwil Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ymhlith diddordebau Dawn mae addysg, anghydraddoldebau, hunaniaeth, a phlant a phobl ifanc. Mae Dawn wedi ymrwymo i weithio’n greadigol gyda chymunedau i gynhyrchu data amlfodd a lledaenu’r negeseuon o ganfyddiadau ymchwil mewn ffyrdd arloesol a hygyrch i gynyddu’r potensial ar gyfer newid cymdeithasol, addysgol a pholisi a chefnogi ymarfer gwybodus.