Pryd: 21 Mai 2024, 11-1pm

black and white abstract painting

Seminar Y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) ‘Hyrwyddo lles gofalwyr: ymchwil gyfredol a chyfeiriadau’r dyfodol’.

Pryd: Mawrth 21 Mai 2024

Lleoliad: sbarc|spark, Heol Maendy, Caerdydd CF24 4HQ

Amser: 11 – 1pm

Cyflwynwyr: Sladana Pavkovic, Dan Burrows, Alisoun Milne

Mae astudiaethau ymchwil am les gofalwyr dros y degawd diwethaf wedi amlygu effaith rhoi gofal ar iechyd ariannol, corfforol a meddyliol gofalwyr anffurfiol. Yn y seminar hon a gynhelir gan y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym yn canolbwyntio ar y goblygiadau i les cymdeithasol gofalwyr ac yn cyflwyno peth o’r ymchwil diweddaraf o’r DU ac Awstralia am les cymdeithasol gofalwyr. Ymunwch â ni ar gyfer y seminar wyneb yn wyneb rhad ac am ddim hwn.

Cyflwyniad 1: Gofalwyr pobl â dementia: safbwyntiau personol, gweithwyr iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr.

Mae Sladana Pavkovic yn ymchwilydd gyrfa gynnar ym maes gofal dementia wedi’i leoli yng Nghanolfan Ymchwil ac Addysg Dementia Wicking, Prifysgol Tasmania, Awstralia.

Cyflwyniad 2: Pleser Gofal a Hamdden i Ofalwyr: trin a thrafod pwysigrwydd hwyl ym mywydau gofalwyr di-dâl.

Mae Dan Burrows yn uwch ddarlithydd mewn gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae wedi bod yn ymwneud ag ymchwil ansoddol sy’n trin a thrafod profiadau a safbwyntiau gofalwyr di-dâl ers 2020.

Cyflwyniad 3: Niwed i ofalwyr: her i ymarferwyr, gwasanaethau ac ymchwil.

Mae Alisoun Milne yn Athro Emeritws Gerontoleg Gymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caint. Mae diddordebau ymchwil Alisoun yn cwmpasu pedwar maes croestoriadol: gwaith cymdeithasol gyda phobl hŷn a’u teuluoedd; iechyd meddwl yn ddiweddarach mewn bywyd; gofalu am deulu; a gofal hirdymor.

Byddwn yn darparu te, coffi a phice ar y maen.

Amseru:

10:30Cofrestru yn agor / te a choffi.
11:00Materion i sôn amdanynt/croeso gan Paul, cyfarwyddwr CARE
11:10Cyflwyniad 1 – Sladana Pavkovic
11:30Cyflwyniad 2 – Dan Burrows
11:50Cyflwyniad 3 – Alisoun Milne
12:15Trafodaeth banel a sesiwn holi ac ateb
12:45Gorffen a rhwydweithio