Cyflwynydd: Jonathan Scourfield, Athro Gwaith Cymdeithasol, CASCADE, Prifysgol Caerdydd

Gwella ymarfer gyda thadau mewn gwasanaethau plant

Cyflwynydd: Jonathan Scourfield, Athro Gwaith Cymdeithasol, CASCADE, Prifysgol Caerdydd

Dyddiad: 15 Ebrill 2024

Amser: 12:00 – 12:45

Lleoliad: Ar-lein, ZOOM

Mae problem barhaus a hir-sefydlog gydag ymarfer mewn gwasanaethau plant sy’n canolbwyntio’n bennaf ar famau ac yn methu â chynnwys tadau yn iawn (y term a ddefnyddir yma mewn ystyr gynhwysol). Mae hyn yn mynd yn groes i fuddiannau dynion, menywod a phlant. Mae achosion y broblem yn gymhleth. Fe wnaeth y cyflwynydd ei astudio am y tro cyntaf wrth wneud ei PhD yn yr 1990au hwyr, ac mae tystiolaeth fwy diweddar yn awgrymu nad oes fawr o newid wedi digwydd ers hynny.

Bydd y weminar hon yn cyflwyno’r broblem ac yn disgrifio’r hyfforddiant sy’n seiliedig ar ymchwil a’r datblygiad sefydliadol sydd wedi’u cynllunio i wella’r sefyllfa. Cafodd y cynllun Gwella Diogelu trwy Archwilio Ymgysylltu â Thadau (ISAFE) ei ddatblygu gan Sefydliad y Tadau a CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei effeithiolrwydd yn cael ei brofi ar hyn o bryd mewn treial rheoledig ar hap a ariennir gan Foundations, y What Works Centre cenedlaethol ar gyfer plant a theuluoedd.

Mae ISAFE yn seiliedig ar waith blaenorol gan y ddau sefydliad, sef hyfforddiant a gafodd ei ddatblygu gan y cyflwynydd a chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal ag ymyriad ymgysylltu â thadau aml-haenog a gafodd ei ddylunio a gweithredu gan Sefydliad y Tadau. Cafodd hyn ei werthuso gan y cyflwynydd. Mae’r elfen hyfforddi sgiliau yn cyflwyno cyfweliadau ysgogol hefyd. Defnyddiwyd hyn am y tro cyntaf mewn cyd-destun gwasanaethau plant gan academyddion CASCADE.