Nod Fframwaith y Blynyddoedd Cynnar (2009) Llywodraeth yr Alban yw rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant yr Alban. Mae hefyd yn amlinellu’r camau y mae’r Llywodraeth, partneriaid lleol ac ymarferwyr gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar angen eu cymryd i dorri cylchoedd negyddol o anghydraddoldeb drwy ymyrraeth gynnar.
Mae’r Fframwaith yn nodi 10 elfen sy’n berthnasol i’w gilydd y bydd angen eu cyflawni er mwyn ‘gwella’n radical’ y deilliannau:
• Ymagwedd gydlynol.
• Helpu plant, teuluoedd a chymunedau i sicrhau deilliannau i’w hunain.
• Torri cylchoedd tlodi, anghydraddoldeb a gwelliannau gwael yn ystod a thrwy
gydol y blynyddoedd cynnar.
• Canolbwyntio ar ymgysylltu a grymuso plant, teuluoedd a chymunedau.
• Defnyddio cryfder gwasanaethau cyffredinol er mwyn atal ac ymyrryd yn
gynnar.
• Rhoi pwyslais ar ansawdd wrth gyflwyno gwasanaeth.
• Gwasanaethau sy’n bodloni anghenion plant a theuluoedd.
• Gwella deilliannau ac ansawdd bywyd plant drwy chwarae.
• Symleiddio a chysoni’r ddarpariaeth.
• Mwy o gydweithio effeithiol