Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol blynyddol ESRC (Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol) i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth am ymchwil gwyddorau cymdeithasol rhagorol. Eleni cynhaliodd Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant – CASCADE ddigwyddiad arddangos a gyd-gynhyrchwyd gan grŵp cynghori ymchwil CASCADE Voices o’r enw – My Creative Voice: Blaenoriaethau pobl ifanc ar gyfer ymchwil, polisi ac ymarfer. Mae CASCADE Voices yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Voice From Care Cymru ac mae’n cynnwys pobl ifanc â phrofiad o ofal sy’n cynghori ar ymchwil o ddylunio i ledaenu. Gweithiodd y bobl ifanc gyda’r artist Lucy k fel rhan o weithdy i greu Celf Brotest gan rannu eu blaenoriaethau ar gyfer ymchwil.

This image has an empty alt attribute; its file name is 7516f3_c53106931d6c4c469826e750c02706ea~mv2.webp

Arddangoswyd y gwaith celf ar ddydd Llun y 4ydd Tachwedd 2019 yng nghanol dinas Caerdydd. Cynhaliwyd digwyddiad gyda’r nos i drafod y gwaith celf a chlywed gan ddau ymchwilydd yr oedd eu prosiectau’n ymwneud â’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan y bobl ifanc. Trafododd Dr Jennifer Lyttleton-Smith ei phrosiect Talking Changes a Matthew Howells ei ymchwil PhD dan y teitl ‘Archwilio Effaith Trosedd ar Bobl Digartrefedd Ifanc: Persbectif Person Ifanc’.

Defnyddiwyd y negeseuon a’r themâu a amlygwyd gan y bobl ifanc i ddatblygu neu gefnogi syniadau ymchwil o fewn CASCADE.

This image has an empty alt attribute; its file name is 7516f3_f47b2426325a49b2b3c48b07224f9ddc~mv2.webp

Ers arddangos ym mis Tachwedd rydym wedi rhannu’r gwaith celf mewn digwyddiadau eraill. Yn gyntaf yng nghynhadledd ExChange ‘Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw cariad’ – gan eu cynwys yn ein gweithdy a gyd-ddatblygwyd gyda phobl ifanc i archwilio eu profiadau o gariad yn y system ofal.

This image has an empty alt attribute; its file name is 7516f3_f56e924063294737831c93c26fd1ecb9~mv2.webp

Y lle olaf i arddangos oedd cynadleddau Voices From Care Cymru Proud to be Me Gogledd a De Cymru ym mis Chwefror 2020. Y tro yma defnyddiwyd y gwaith celf fel ysbrydoliaeth mewn gweithdy stigma ‘Protest Art’. Yma cafodd mynychwyr gyfle i greu eu celf Brotest eu hunain, gan gynnig sloganau o amgylch stigma.

Bydd y gwaith celf nawr yn dod o hyd i’w gartref parhaol yn y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant – swyddfeydd CASCADE, ond bydd y negeseuon a’r blaenoriaethau a nodwyd gan y bobl ifanc yn parhau i gael eu defnyddio yn ein gwaith.

This image has an empty alt attribute; its file name is 7516f3_9076c6c786b34b6eb3434eb960d3bd12~mv2.webp

Am fwy o wybodaeth am Cascade Voices neu waith arall, os gwelwch yn dda, cysylltwch a Rachel Vaughan, gweithiwr ymgysylltu Cascade – VaughanR5@cardiff.ac.uk.