Rydym yn falch ein bod yn gallu lansio Gwefan y prosiect Cyfranogiad Plant mewn Ysgolion.

Rydym yn brosiect sy’n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Mae pedair prifysgol yn rhan o’r prosiect, sy’n canolbwyntio ar hawliau cyfranogi plant ifanc yn y lleoliad cynradd is. Prif nod ein prosiect yw trin a thrafod arferion pedagogaidd sy’n ymgorffori hawliau cyfranogi wrth roi sylw cyson i leisiau a galluedd plant ifanc. Nod ein hymchwil yw sefydlu arferion addysgu sy’n ymgorffori hawliau cyfranogi plant ifanc mewn ystafelloedd dosbarth ac ysgolion. Rydym yn gweithio gydag ystod o unigolion a sefydliadau ar hyd ystod y prosiect megis athrawon, sefydliadau addysg uwch, y rhai sy’n rhoi cyfleoedd dysgu proffesiynol ac, wrth gwrs, blant.

Mae gennym nawr dudalen we sy’n rhoi gwybodaeth am ein prosiect, ac mae’n ofod ar gyfer adnoddau a newyddion ar bopeth sy’n ymwneud â chyfranogiad mewn ysgolion cynradd. Ar ein gwefan, gallwch ddarganfod rhagor am bob agwedd ar y prosiect, gan gynnwys gwybodaeth am ein tîm, ein harianwyr a’n partneriaid. Rydym hefyd yn ganolbwynt ar gyfer popeth sy’n ymwneud â chyfranogiad plant mewn ysgolion. Mae ein hyb adnoddau ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn hybu a meithrin hawliau cyfranogi plant mewn lleoliadau addysgol, ac mae wedi’i gynllunio i roi gwybodaeth werthfawr. Yn ogystal â’r adnoddau, ceir blogiau, flogiau a phodlediadau ar ein hymchwil, gan gynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau fel sesiynau hyfforddi sydd ar ddod, cynadleddau a gweminarau yn yr adran Newyddion o’r wefan.

Ewch i’n gwefan i ddarganfod rhagor, a chofiwch roi gwybod amdani i’ch cydweithwyr a’ch ffrindiau a allai fod â diddordeb mewn hawliau cyfranogiad plant ifanc mewn ysgolion.

Os hoffech gymryd rhan yn ein Rhwydwaith Cydweithio er mwyn bod yn rhan o’r prosiect Cyfranogiad Plant mewn Ysgolion, gallwch ymuno â’r rhwydwaith a thanysgrifio i’n cylchlythyr.

Tîm Cyfranogiad Plant mewn Ysgolion
child.participation@uwe.ac.uk