ADRODDIAD YMCHWIL

Awduron: Dawn Mannay, Phil Smith, Stephen Jennings, Catt Turney a Peter Davies

Adroddiad wedi’i Gomisiynu gan Ganolfan Mileniwm Cymru

Blwyddyn: 2018

Crynodeb:

Nod yr ymchwil oedd asesu’r sylfaen wybodaeth gyfredol ynghylch ymgysylltiad plant a phobl ifanc â phrofiad gofal â’r celfyddydau, ac archwilio barn hwyluswyr, pobl ifanc, a’u gofalwyr sy’n rhan o’r rhaglen gelf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Amcan 1: Coladu ac adrodd ar ddata a llenyddiaeth berthnasol.
Amcan 2: Cynnal astudiaeth ymchwil ansoddol fanwl gyda hwyluswyr rhaglenni, pobl ifanc â phrofiad o ofal, a’u teuluoedd maeth i roi mewnwelediad i’w profiad o fod yn rhan o’r rhaglen gelf-seiliedig, a’u barn ar yr hyn y gellid ei wneud i wella’r model ac annog ymgysylltiad â’r celfyddydau yn ehangach.