Rwyf i’n angerddol dros ddulliau’n seiliedig ar gryfderau mewn ymarfer gwaith cymdeithasol, i’r graddau fy mod wedi neilltuo fy mhrosiect ymchwil doethurol i astudio’r maes. Gobeithio y bydd fy ngwaith yn helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu systemau a strwythurau sy’n cefnogi gweithio’n seiliedig ar gryfderau ar draws gwasanaethau i oedolion.

Ond beth ydw i’n ei olygu wrth sôn am dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau? Does dim un diffiniad cryno i’w esbonio. Y ffordd symlaf i’w fynegi yw ei fod yn ystyried unigolion yn nhermau eu galluoedd, eu hasedau a’u medrau (h.y. eu cryfderau) yn hytrach na chanolbwyntio ar y diffygion a’r dibyniaethau y gellir eu gweld wrth gyflwyno anghenion.

Yn aml caiff dulliau’n seiliedig ar gryfderau eu camddehongli, neu eu camosod, a gellir eu defnyddio fel proses ar gyfer dogni gwasanaethau neu leihau’r cymorth sydd ei angen ar unigolyn. Ond nid dyna yw hanfod y dull, ac o’u gwneud yn iawn, mae dulliau’n seiliedig ar gryfderau i’r gwrthwyneb i hynny. Mae gweithio mewn dull sy’n seiliedig ar gryfderau yn golygu edrych ar yr unigolyn yn gyfannol, sut, a pham fod angen ymyrraeth gwaith cymdeithasol arnynt ar yr adeg hon yn eu bywyd. Mae’r dull yn dwyn ynghyd amrywiaeth o asedau unigol a chymunedol, a allai ddisodli’r angen am wasanaeth gofal cymdeithasol ffurfiol, ond mae rôl gwaith cymdeithasol yn ymwneud â deall ac eirioli dros yr unigolion a galluogi i’r strwythurau cymorth anffurfiol hyn gael eu cryfhau er mwyn galluogi person i fyw eu bywyd mwyaf annibynnol.

Wrth i mi ymgymryd â fy adolygiad o lenyddiaeth, mae ehangder y deunydd academaidd a phrif ffrwd sy’n cyfeirio at y dull cryfderau’n drawiadol. Yn fras, gellir categoreiddio’r gwaith yn dri maes allweddol: dulliau damcaniaethol a deddfwriaethol, astudiaethau a gwerthusiadau academaidd a seiliedig ar ymarfer, a gweithredu modelau sy’n seiliedig ar ymarfer. Ac eto, er gwaethaf y doreth o ddeunydd, mae adolygiadau llenydiaethl diweddar wedi awgrymu bod mwy o waith i’w wneud i ddangos effaith dulliau’n seiliedig ar gryfderau (Price et al, 2020; Caiels et al, 2021).

Fy Astudiaeth

Mae fy ymchwil yn astudiaeth ddoethurol ac felly ni all gwmpasu cyfanrwydd y dull cryfderau na’i effaith. Yn hytrach, bydd yn astudiaeth ethnograffig ar wahân, yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol oedolion a phobl sy’n cysylltu â’r gweithwyr cymdeithasol hyn (yr arbenigwyr-drwy-brofiad) i ystyried y themâu canlynol mewn amrywiol sefyllfaoedd bywyd go iawn:

Sut mae gweithwyr cymdeithasol yn diffinio ac yn deall dulliau’n seiliedig ar gryfderau mewn perthynas â’u hymarfer?

Sut mae’r dehongliadau hyn i’w gweld mewn ymarfer dydd i ddydd a beth yw’r ffactorau sy’n dylanwadu ar y rhain?

Sut mae pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth (arbenigwyr-drwy-brofiad) yn disgrifio eu profiad o ymyrraeth gwaith cymdeithasol?

Byddaf yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau symudol i arsylwi gweithwyr cymdeithasol ar waith. Mae hyn yn golygu yn hytrach na dim ond cyfweld, byddaf yn mynd gyda gweithwyr cymdeithasol ar ymweliadau, yn arsylwi cyfarfodydd, trafod elfennau o ymarfer ac yn adolygu dogfennau. Rwyf i wedi sicrhau awdurdod lleol lletyol i gynnal yr ymchwil ac yn amodol ar dderbyn cymeradwyaeth foesegol, rwy’n gobeithio dechrau casglu data yn ddiweddarach eleni. Yn ysbryd dull cryfderau rwy’n bwriadu casglu a dadansoddi’r data mewn ffordd sy’n dathlu sut mae dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau yn ymddangos a sut y gall adeiladu ar y rhain ein helpu i lywio drwy rai o’r heriau sy’n rhan annatod o waith cymdeithasol gydag oedolion.

Sarah Farragher, Myfyriwr Doethur mewn Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd 


Caiels, J. Milne, A. Beadle-Brown, J (2021) Taking a strengths-based approach to social work and social care: A literature review James , NIHR Policy Research Unit in Adult Social Care, London

Price A, Ahuja L, Bramwell C, Briscoe S, Shaw L, Nunns M et al.  (2020) Research evidence on different strengths-based approaches within adult social work: a systematic review. Southampton: NIHR Health Services and Delivery Research Topic Report. [ar-lein]

Ar gael yn: http://medicine.exeter.ac.uk/media/universityofexeter/medicalschool/research/pentag/documents/Web_report_-_adult_social_work.pdf