Mind Matters: Sut y galluogodd ymdrin ag unigrwydd ni i ddysgu am bŵer cymuned ymhlith y rhai sy’n gadael gofal

Rhoddoch chi’r cyfle i fi greu atgofion y mae llawer o bobl eraill yn eu cymryd yn ganiataol – teithiau teuluol rydyn ni’n colli allan arnyn nhw fel arfer. Mae gen i nawr rywbeth i edrych yn ôl arno yn un o’r rhannau mwyaf ansefydlog/unig ym mywyd person ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.
– Cyfranogwr Mind Matters

Yn aml caiff lles meddwl gwael ei gysylltu â phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Gall eu profiad o ddiffyg cefnogaeth deuluol neu grwpiau gymheiriaid cadarnhaol hefyd gyflwyno ymdeimlad o unigedd. Ond gall gweithgareddau cadarnhaol helpu i symud y cyflwr meddwl at agwedd fwy calonnog.

Lansiwyd ein prosiect Mind Matters yn 2020 ar ôl i Gyngor Dinas Caerlŷr ofyn i Leicestershire Cares edrych ar anghenion lles meddyliol pobl ifanc lleol â phrofiad o fod mewn gofal. Ar ôl blwyddyn o’r prosiect dyma ein canfyddiadau:

Cyd-gynhyrchu Mind Matters

Sefydlodd Leicestershire Cares dîm ymgynghori o bum person ifanc â phrofiad o fod mewn gofal i ddatblygu’r cynllun cychwynnol at ddiben y prosiect (cryfhau eu gwydnwch a’u lles), ei gwmpas, ei gyflawniadau a’i enw. Cynhaliwyd tri chyfarfod i drafod y prosiect a beth y gallai ei gyflawni i bobl ifanc, yn cynnwys trafodaethau ar effaith y pandemig ar iechyd meddwl pobl ifanc ac ynysu, lefelau uchel o ddiflastod, diffyg cysylltedd ac arferion bwyta gwael. Datblygodd syniadau am y ‘Fakeaways’, ‘crafternoons’ a sesiynau cymdeithasol ar-lein rheolaidd o’r trafodaethau hyn. Roedd y model cyd-gynhyrchu hwn yn rhoi offer i’r bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn ogystal â pherchnogaeth o’r datrysiadau fyddai’n helpu i wella eu lles.

Gweithgareddau ar-lein

Ar ddechrau’r cyfnod clo, symudon ni ein cymorth yn gyflym ar-lein a darparu SIMs data a/neu liniaduron i bobl ifanc i sicrhau eu bod yn gallu cyrchu gweithgareddau digidol. Pan ddechreuodd Mind Matters ym mis Gorffennaf 2021, roedd gennym ni eisoes rai misoedd o brofiad yn cyflwyno gweithgareddau rhithwir difyr ac adeiladwyd ar hyn i sicrhau bod Mind Matters yn llwyddiant. Defnyddiwyd canfyddiadau o’n hadroddiad ‘Life Under Lockdown’ (Mai 2020) i greu rhaglen fyddai’n wydn, yn ymarferol ac yn gynhwysol.

Roedd y crafternoons yn cynnwys wyth o bobl ifanc mewn rhaglen chwe wythnos o weithgareddau celf a chrefft ar Zoom, ynghyd â hwylusydd oedd yn eu hannog i ddefnyddio celf a chrefft fel ffordd o wella lles. Dywedodd y bobl ifanc eu bod wedi eu helpu i ymlacio, teimlo’n llai pryderus a’u bod wedi mwynhau dysgu hobi newydd gyda’i gilydd.

“Mae gwneud y gweithgareddau hyn [sesiynau celf a chrefft] yn gadael i fi rannu fy nghreadigrwydd gydag eraill a dyna yw fy angerdd. Gan fod gen i orbryder, dwyf i ddim yn ymdopi’n dda mewn grwpiau ond mae cael rhywbeth i’w wneud yn tynnu eich meddwl oddi ar fod mewn grŵp ac rydych chi’n dechrau sgwrsio gyda phobl.”
– Cyfranogwr Mind Matters

Roedd y Fakeaways yn llwyddiant mawr. Yn y sesiwn goginio hon bob pythefnos dros Zoom gyda thiwtor coginio proffesiynol o’r Ganolfan Addysg Oedolion roedd pobl ifanc yn gwneud fersiynau iachus o’r bwyd tecawê roedden nhw wedi bod yn ei brynu yn ystod y cyfnod clo. Roedd hyn yn grymuso’r bobl ifanc i gynnal y sesiynau eu hunain, gan rannu ryseitiau oedd yn eu cysylltu â’u teuluoedd a’u treftadaeth oedd wedi ymddieithrio a hybu sgyrsiau am eu profiad byw cyffredin.

Roedd 12 o fynychwyr rheolaidd yn y Fakeaways, ac weithiau mwy, ac roedd yr adborth o’r sesiynau’n gadarnhaol iawn, gan nodi gwell hyder, arbed arian, bwyta’n iachach a cholli pwysau. Roedd y rheini â phlant yn nodi bod coginio gyda’i gilydd yn helpu i wella eu perthynas gyda’u plentyn.

“Mae’r hyder rwy wedi’i fagu drwy goginio i fi fy hun yn anhygoel. Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n gallu gwneud prydau blasus am lai na £10, a’u mwynhau nhw hefyd!”
– Cyfranogwr Mind Matters

“Rwy wedi arbed cymaint o arian yn peidio â phrynu prydau microdon a chael gwared ar fy nheimladau o ofni fy mod yn methu coginio. Diolch!”
– Cyfranogwr Mind Matters

This image has an empty alt attribute; its file name is Sophie_Quartine_Cooks.max-1200x1200-1-1024x576.jpg

Dod allan o’r cyfnod clo

Ymunodd pobl ifanc â’r sesiynau Chill & Chat wythnosol gyda nosweithiau ffilm, cwisiau, a sgyrsiau cyffredinol. Yn yr hydref roedd modd i ni gynnal gweithgareddau awyr agored gyda phellter cymdeithasol, yn cynnwys picnics, sesiynau bwyta’n iach mewn rhandir cymunedol lleol, parti Nadolig awyr agored, barbeciw, canŵio yn y Ganolfan Gweithgareddau Awyr Agored, cerfio pren a phrosiectau garddio. Cafwyd cyfanswm o dros 30 o bobl ifanc yn y gweithgareddau, gyda’r mwyafrif yn dweud eu bod wedi’u helpu i ailgysylltu â phobl ifanc eraill a theimlo’n llai ynysig.

“Mae gallu gweld wynebau pobl a chael sgyrsiau wyneb yn wyneb yn teimlo mor naturiol, ond mae wedi bod yn rhywbeth anodd dod o hyd iddo dros y pum mis diwethaf. Mae’r cyfleoedd fel y rhain mae Leicestershire Cares yn eu cynnig mor gadarnhaol i mi’n gyfannol.”
– Cyfranogwr Mind Matters

Buddion tymor hir

Yn ogystal â dysgu sgiliau coginio newydd a deall bwyta’n iach drwy’r Fakeaways, dywedodd y bobl ifanc fod y gweithgareddau cymdeithasol wedi rhoi mwy o hyder iddyn nhw i ymwneud â phobl eraill, ynghyd â theimlad o berthyn a help i deimlo eu bod yn gallu siarad am eu profiad o fod mewn gofal.

“Mae cymryd rhan yng ngweithgareddau Leicestershire Cares yn golygu fy mod yn gallu mynd allan a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cynnwys cymdeithasu mewn grŵp. Mae’n gadael i fi gyfarfod â phobl newydd a theimlo’n rhan o dîm.”
– Cyfranogwr Mind Matters

“Mae fy hyder wedi codi ac rwy’n teimlo’n fwy diogel yn siarad am fy mywyd go iawn fel person â phrofiad o fod mewn gofal. Rhoddodd Leicestershire Cares le diogel imi gydnabod ei bod yn iawn i mi gofleidio’r rhan honno ohonof fy hun.”
– Cyfranogwr Mind Matters

Siaradodd rhai am deimlo’n fwy annibynnol, sydd wedi eu hannog i ystyried yr hyn y maen nhw am ei wneud nesaf o ran gwirfoddoli, hyfforddi neu gyflogaeth, a sut y gallai eu penderfyniadau gefnogi eu hiechyd meddwl.

“Helpodd fi i ddod yn fwy hyderus ac mae’n eich helpu i symud at annibyniaeth… hoffwn gael cyfle i roi cynnig ar waith gwirfoddol neu â thâl gydag anifeiliaid. Rwy’n credu y byddai hynny’n gwella fy iechyd meddwl.”
– Cyfranogwr Mind Matters

Tra bo eraill wedi gwerthfawrogi’r cyfle i ddal i fyny ar fywyd oedd ar stop, a chreu atgofion y mae llawer o deuluoedd traddodiadol yn eu cymryd yn ganiataol.

“Hefyd cefais gyfle gennych chi i greu atgofion sy’n cael eu cymryd yn ganiataol gan lawer o bobl eraill, fel Go-cartio a Neuadd Beaumanor – teithiau teuluol nad ydyn ni’n eu profi fel arfer. Nawr mae gen i rywbeth i edrych yn ôl arno yn un o’r rhannau mwyaf ansefydlog/unig ym mywyd person ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.”
– Cyfranogwr Mind Matters

This image has an empty alt attribute; its file name is WhatsApp_Image_2021-06-30_at_18.33.091.max-1200x1200-1-1024x768.jpg

At y dyfodol

Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo godi, byddwn yn dychwelyd at gyflwyno wyneb yn wyneb, ond byddwn hefyd yn cynnal model hybrid o gefnogaeth ar-lein ac wyneb yn wyneb. Rydyn ni’n teimlo bod gan gyflwyno rhithwir rôl i’w chwarae, yn enwedig i bobl ifanc sydd yn bryderus wrth deithio, neu sy’n brysur gydag ymrwymiadau eraill (e.e. coleg) ac yn dymuno ymuno drwy alwad fideo.

Awgrymodd ein grŵp llywio yr hyn y bydden nhw am ei gael o’r rhaglen pe bai’n parhau, fel cynnwys mwy o ffocws ar sut i reoli iechyd meddwl a datblygu meddwl positif; gweithgareddau cymdeithasol i ddatblygu sgiliau bywyd; a gweithgareddau i hybu ffitrwydd corfforol yn ogystal â lles meddyliol.

“Rwy’n mwynhau unrhyw gyfle i fynd i’r awyr agored a gwneud rhywbeth yn enwedig gyda phobl eraill â phrofiad o fod mewn gofal. Mae’n gyfle i fi gymdeithasu mewn lle diogel a chodi fy hun o’r gwely y diwrnod hwnnw. Mae pethau ymarferol yn benodol yn dda h.y. coginio a gwaith coed oherwydd gallwch chi eu defnyddio yn eich bywyd go iawn.”
– Cyfranogwr Mind Matters

Nododd y bobl ifanc hefyd fod pŵer ‘rhoi’n ôl’ a chysylltu gyda’u cymuned leol yn cael effaith ar eu hunan-barch a’u lles meddyliol. Roedden nhw’n awgrymu y gallen nhw godi arian i achos lleol mewn gwahanol ffyrdd h.y. marathon gemau 24 awr, pobi cacennau, ocsiwn celf neu daith gerdded noddedig.

Cyflwynodd y grŵp llywio hefyd y syniad o hyfforddwr bywyd fel cefnogaeth ddefnyddiol i’r rheini a allai ddymuno cael cyngor penodol ar sut i symud at gyflawni eu nod. Yn ddiweddar mae Leicestershire Cares wedi dechrau rhaglen fentora gan wirfoddolwyr busnes i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Rydyn ni’n gweld bod rhai o’r canlyniadau’n gwella lles meddyliol, ac yn gyffredinol, mae ehangu rhwydweithiau’r bobl ifanc hyn yn eu helpu i dyfu.

“Mae’n wych gweithio gyda sefydliad fel Leicestershire Cares. Mae’r ymrwymiad a’r angerdd dros gefnogi pobl ifanc yn amlwg o’r cysylltiadau cynnar. Mae’r arloesi wrth ddatblygu rhaglenni a’r ymrwymiad i ganlyniadau a gytunir yn rhagorol!”
– Diana Dorozkinaite, Rheolwr Comisiynu Newid Busnes Cyngor Dinas Caerlŷr

I gael mwy o wybodaeth am ein gwaith gyda phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, cysylltwch â Jacob Brown.

I ddarllen yr erthygl lawn, ewch i wefan Leicestershire Cares