Pandemig y Coronafeirws (COVID-19): Pobl Ifanc sy’n gadael gofal ac ymarferwyr yn rhannu eu profiadau a gwersi ar gyfer y dyfodol

Mae pandemig COVID-19 a’r cyfnod clo dilynol wedi cael effaith fawr yn fyd-eang, gydag effaith anghymesur ar y bobl dlotaf a mwyaf bregus yn y gymdeithas. Cynlluniwyd yr astudiaeth ymchwil i gyfrannu at y sail o dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn edrych ar gyflenwi a derbyn gofal cymdeithasol yn ystod y cyfnod. 

Cyllidwyd yr astudiaeth ymchwil gan Voices from Care Cymru a CASCADE: y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant. Roedd yn cynnig llwyfan i farn 21 o bobl ifanc oedd â phrofiad o ofal a gyflwynodd adroddiadau byw a manwl o’u profiadau yn y cyfnod clo. Roedd cynnwys arolwg proffesiynol gyda 23 o gyfranogwyr yn golygu bod modd rhoi ystyriaeth i fentrau lleol, oedd yn gefndir gwerthfawr ar gyfer dadansoddi adroddiadau’r bobl ifanc. Mae’r astudiaeth felly’n cynnwys gwersi pwysig i lunwyr polisïau, rheolwyr gofal cymdeithasol ac ymarferwyr rheng flaen sy’n gweithio gyda phobl ifanc â phrofiad o ofal a grwpiau bregus eraill. 

Yn galonogol, datgelodd yr astudiaeth ymdrechion cadarnhaol i addasu i’r amodau gwaith digynsail. Roedd yn werth nodi bod y gweithwyr proffesiynol a ymatebodd i’n harolwg yn gadarnhaol am y cymorth roedden nhw wedi’i roi i’r rheini oedd yn gadael gofal. Roedd ymdrechion i gynnal cyfathrebu gyda phobl ifanc, brwydro unigedd, ynysu a diflastod, yn ogystal â sicrhau mynediad at adnoddau yn arwydd o arfer da. Fodd bynnag, nodwyd bod yr ymdrechion i ymateb i anghenion pobl ifanc yn cael eu cyfyngu gan ddiffyg cyllid ychwanegol. 

Weithiau roedd safbwyntiau pobl ifanc yn cyferbynnu’n llwyr â safbwyntiau gweithwyr proffesiynol a cheir pryderon o hyd o ran cydraddoldeb y gefnogaeth o fewn ac ar draws ardaloedd, a’r cydweddu rhwng anghenion cymorth a’r ddarpariaeth sydd ar gael. Nid oedd ein canfyddiadau’n awgrymu yr ymgynghorwyd â phobl ifanc a’u cynnwys mewn penderfyniadau am ffyrdd newydd o weithio, ac roedd y pwyslais i’w weld ar anghenion argyfwng brys a thymor byr, yn hytrach na chynllunio trawsnewid neu ymagwedd yn seiliedig ar hawliau. Pryder penodol oedd adroddiadau gan bobl ifanc oedd yn bryderus am ddarpariaethau sylfaenol, byw mewn llety amhriodol a cheisio delio â diffyg cymorth ar gyfer iechyd meddwl. 

Ond er gwaethaf yr ystyriaethau hyn, roedd pobl ifanc yn gwerthfawrogi cyswllt gan weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal proffesiynol gan nodi bod hyn yn hanfodol yn ystod pandemig COVID-19, fel y dangosir yn y gerdd hon gan un o’r bobl ifanc â phrofiad o ofal oedd yn rhan o’r astudiaeth: 

Times have changed, time is passing, 
But our need for you to care is not lapsing, 
We may whinge and shout and say we don’t want, 
But we do, we really want you to. 
We are isolated, changed and really not sure, 
We need that face, the one we say we dislike 
we need those texts that we never reply to, 
We need the language that you share, they hey, 
`how are you doing, I am still here’, 
This is the real language that cares, the language we need, 
The language which shows us not everything has changed, 
The language that comforts us, like a weird aunt would send 
Which would make us cringe, and smile, 
A smile which means something hasn’t changed 
-the language you use to show us you care. 

Hefyd gallwch wylio ffilm Care Leavers and Coronavirus am y canfyddiadau allweddol: 

Byddem ni’n falch i glywed gennych gydag unrhyw adborth, sylwadau neu awgrymiadau: 

Louise Roberts, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd RobertsL18@caerdydd.ac.uk @DrLouiseRoberts 

Cyfeirnodau 

Roberts, L., Rees, A., Bayfield, H., Corliss, C., Diaz, C., Mannay, D. and Vaughan, R. 2020. Young people leaving care, practitioners, and the coronavirus (COVID 19) pandemic: experiences, support, and lessons for the future. Cardiff: Cardiff University.