Pam fod rhai cynorthwywyr gymaint yn fwy effeithiol nag eraill? Sgwrs gyda’r Athro Tom Sexton a’r Athro Donald Forrester

Hydref 2018

Wrth gael ei gyfweld gan Michael Little (Cymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cymdeithasol Dartington a chyn Gyfarwyddwr Uned Ymchwil Gymdeithasol Dartington), mae’r Athro Sexton (Prifysgol Indiana), arbenigwr rhyngwladol blaenllaw ym maes Seicoleg Teulu, yn trafod ei ymchwil arloesol ar yr amrywiadau rhwng cwnselwyr a’r canlyniadau y maent yn helpu pobl i’w cyflawni. Pam mae gwahanol gwnselwyr sy’n defnyddio’r un dull yn sicrhau canlyniadau amrywiol? Mae’r Athro Forrester (Cyfarwyddwr CASCADE a Chanolfan Gofal Cymdeithasol Plant sy’n Gweithio) yn siarad am ymchwil newydd ganddo ef a’i dîm sy’n nodi ffactorau allweddol sy’n gweithredu canlyniadau mewn gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd. Mae ei ganfyddiadau’n awgrymu bod perthnasoedd yn bwysig – ond dim digon ar eu pennau eu hunain. Felly beth sydd ei angen i helpu pobl yn effeithiol?