Rhannu gwybodaeth i ddiogelu plant a phobl ifanc yn y sector addysg yn y DU

Mae’r canllaw hwn yn cefnogi staff a sefydliadau’r sector addysg yn y DU sy’n gweithio gyda phobl ifanc o dan 18 oed, i rannu gwybodaeth bersonol yn hyderus at ddibenion diogelu. Mae’n egluro sut mae’r ddeddfwriaeth ar ddiogelu data yn berthnasol i brosesau diogelu, a dylid ei ddefnyddio ochr yn ochr â’r Canllaw 10 cam ar rannu gwybodaeth i ddiogelu plant. Nid yw’n ganllaw ar gyfer arferion diogelu.

Mae’r canllaw’n berthnasol ar gyfer y sector addysg cyfan, gan gynnwys ysgolion, colegau, prifysgolion gyda phlant dan 18 oed, meithrinfeydd, a lleoliadau y tu allan i’r ysgol. Mae canllawiau tebyg ar gyfer sectorau eraill (megis iechyd ac awdurdodau lleol) ar y gweill.

Y negeseuon allweddol yw nad yw’r ddeddfwriaeth ar ddiogelu data yn rhwystr i ddiogelu; mae’n darparu fframwaith ar gyfer rhannu gwybodaeth yn briodol. Mewn argyfwng, dylid rhannu gwybodaeth heb oedi, ac ni ddylai ymarferwyr adael i bryderon am ddiogelu data atal camau gweithredu i amddiffyn plant. Mae’r canllaw yn annog pobl i ddefnyddio sail gyfreithlon er mwyn rhannu gwybodaeth, gan ddilyn gweithdrefnau a hyfforddiant y sefydliad, a cheisio cyngor gan arweinwyr diogelu, swyddogion diogelu data neu reolwyr os yn ansicr. Mae enghreifftiau ymarferol a dolenni i ganllawiau penodol ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi’u cynnwys.