Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith mawr ar fywyd teuluol, yn cynnwys sut y caiff gwasanaethau cymdeithasol i blant a theuluoedd eu cyflwyno. Yn y Gwasanaethau Plant yn yr NSPCC rydym ni wedi symud o weithio wyneb yn wyneb i ddarparu gwasanaeth cwbl rithwir. Cododd hyn gwestiynau ynghylch sut oedd plant a theuluoedd yn ymateb i wasanaethau digidol a sut i reoli risgiau diogelu’n ddigidol.

Yn ddiweddar daeth yr NSPCC â chydweithwyr at ei gilydd o feysydd gofal cymdeithasol, iechyd, addysg, y sector ieuenctid a’r trydydd sector i archwilio ymarfer gorau ar gyfer asesu a rheoli risgiau diogelu’n ddigidol. Amlygodd y bwrdd crwn ffyrdd newydd ac arloesol o gydweithio i gefnogi teuluoedd, gan nodi heriau allweddol i’r sector.

Cyfleoedd newydd

Mewn ymateb i ofynion y cyfnod clo a mesurau pellhau cymdeithasol, mae’r gwasanaethau wedi ymateb ac addasu’n hynod o gyflym i barhau i ddiogelu teuluoedd. Er bod cyswllt wyneb yn wyneb wedi parhau ar gyfer y teuluoedd mwyaf bregus, mae gwasanaethau ar draws y sector wedi gweithio’n galed i symud i ddarparu cefnogaeth i blant a theuluoedd yn ddigidol.

Trafodwyd llawer o ganlyniadau cadarnhaol yn y symud at arlwy gwasanaeth mwy digidol, yn cynnwys gallu cynnig gwell cefnogaeth drwy gynyddu’r cyswllt a’r mesurau diogelu plant i deuluoedd bregus a allai wynebu straen a phwysau ychwanegol yn ystod yr argyfwng. I ymarferwyr roedd hyn yn ddull cyflymach o ymgysylltu â phobl ifanc gan ei fod yn osgoi amser teithio. Mae hefyd wedi caniatáu cynnig cymorth ‘seiliedig ar le’ llai o faint yn ehangach, gan gyrraedd mwy o deuluoedd nag o’r blaen. Roedd yn well gan rai plant a theuluoedd gyswllt rhithwir, ac mae cyswllt digidol wedi ennyn diddordeb plant a phobl ifanc a theuluoedd na chlywyd mohonyn nhw’n aml.

Roedd gwell gwaith partneriaeth yn fantais allweddol a gododd o’r symudiad at gyflenwi gwasanaethau’n ddigidol, a theimlwyd ei fod yn arbennig o effeithiol yn helpu i fonitro a diogelu plant a phobl ifanc ar yr adeg hon. Adroddwyd bod gwasanaethau ar draws y sector yn cydweithio’n well gyda mwy o gyswllt a chyfathrebu.

Heriau newydd 

Mae ymarferwyr yn wynebu aflonyddwch sylweddol i’w harferion gwaith arferol. Mae hyn yn creu heriau a phryderon am sut i gyrraedd a diogelu pobl ifanc a theuluoedd yn ddigidol a sut i ddiogelu eu lles eu hunain.

Un ystyriaeth sylweddol oedd ei bod yn anodd diogelu a rheoli risg yn effeithiol yn ddigidol. Mewn proffesiwn sy’n seiliedig ar berthynas a chyswllt, y teimlad oedd nad oedd technolegau digidol yn cynnig dewis digonol yn lle cyswllt un-i-un gan mai cipolwg anghyflawn o fywyd teuluol yn unig oedden nhw’n ei gynnig. Mae diffyg ymweliadau wyneb yn wyneb yn golygu na all ymarferwyr gasglu cyd-destun llawnach i’r teulu hwnnw, a gall hyn ei gwneud yn anoddach asesu’r risgiau diogelu. Nodwyd bod ciwiau di-eiriau’n anoddach eu harsylwi’n ddigidol. Codwyd pryderon am sut y gall ymarferwyr ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i bryderon ynghylch diogelu sy’n ymddangos mewn galwad rithwir os nad ydynt yn bresennol yn gorfforol i ymdrin â’r mater.

Codwyd cyswllt rhyngrwyd annigonol, tlodi digidol, neu ddiffyg llythrennedd digidol fel heriau allweddol i ymgysylltu’n ddigidol gyda theuluoedd bregus. Nid oes gan bob teulu fynediad at dechnolegau digidol ac mae rhai plant yn rhannu dyfeisiau gydag aelodau eraill o’r teulu. Mae hyn yn creu rhwystrau i blant a phobl ifanc sy’n ceisio cymorth ac mae’n bryder diogelu. Codwyd cyfrinachedd wrth ddefnyddio ffôn neu dechnolegau digidol hefyd fel her sylweddol, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo. Mae camau cadarnhaol wedi’u cymryd mewn gwaith cymdeithasol, addysg bellach, y sector ieuenctid, a’r trydydd sector i ddarparu eu dyfeisiau digidol eu hunain i blant a phobl ifanc ynghyd â chredyd ffon i gadw cysylltiad gyda gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr allweddol yn y cyfnod hwn. Roedd hefyd yn anodd creu cyswllt â phlant iau, plant anabl a phobl ifanc yn ddigidol. Mae’n hanfodol ystyried effaith y cyfnod clo ar y plant hyn er mwyn gallu nodi a gweithredu ar eu hanghenion penodol wrth gyrchu cymorth.

Mae rhai pobl ifanc yn cael anhawster gyda galwadau digidol cynyddol ac yn profi ‘blinder digidol’. Mae ymarferwyr hefyd yn sôn am eu profiad o flinder digidol wrth gyflenwi gwasanaethau’n ddigidol. Mae hyn wedi cael effaith negyddol ar eu gwydnwch a’u lles. Roedd goruchwylio’n allweddol ar gyfer cefnogi ymarferwyr ar yr adeg hon, ond nodwyd nad oedd hyn wedi bod yn digwydd yn rheolaidd mewn rhai mannau.

Roedd rhai ymarferwyr yn bryderus am eu sgiliau cymhwysedd digidol eu hunain, gan gydnabod nad oeddent mor hyderus ag y gallent fod yn defnyddio gwahanol blatfformau. Roedd peth dryswch hefyd ymhlith ymarferwyr ynghylch pa blatfformau digidol y dylid ac na ddylid eu defnyddio a pha rai na argymhellir oherwydd pryderon diogelu.

Symud at adferiad 

Mae platfformau digidol wedi cynnig adnodd amhrisiadwy i’r sector gofal cymdeithasol i blant yng Nghymru drwy gysylltu, cefnogi a diogelu plant a theuluoedd yn ystod y cyfnod clo. Mae gwersi a chyfleoedd newydd i’w datblygu ynghylch sut y gall integreiddio gwasanaethau digidol i’r sector gynnal gwell cyswllt â theuluoedd a chynnal gwaith partneriaeth gwell, ymhell ar ôl i’r argyfwng ddod i ben.

Fodd bynnag, mae rheoli risgiau diogelu yn y byd digidol yn her. Rhaid ystyried sut rydym ni’n defnyddio technolegau digidol i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc mewn ffordd sy’n osgoi blinder digidol. Mae angen hefyd i ni feddwl sut i gefnogi’r rheini nad oes ganddynt y modd i ddefnyddio technoleg yn rhwydd neu ddefnyddio platfformau gwahanol i ddiogelu teuluoedd.

I ddiogelu plant yn effeithiol, mae angen i ni ddod at ein gilydd fel sector i ddatblygu arweiniad ymarfer clir ar gyflenwi gwasanaethau’n ddigidol. Mae angen i’r arweiniad hwn gynorthwyo ymarferwyr i sicrhau bod eu gwaith yn gynaliadwy, yn effeithiol, yn ddiogel ac yn sicr. Bydd angen goruchwyliaeth, hyfforddiant a chefnogaeth ar ymarferwyr i roi’r arweiniad hwn ar waith. Dyna pryd y bydd modd ymdrin â rhai o’r heriau hyn a gall y sector fod mewn gwell sefyllfa i ddiogelu teuluoedd mewn byd mwy digidol.

Adroddiad gan Sarah Witcombe-Hayes o fwrdd crwn diweddar yr NSPCC, elusen plant flaenllaw y DU, sy’n atal cam-drin ac yn helpu’r rheini yr effeithiwyd arnynt i ymadfer.