Rhan 1: Adeiladu Mudiad dan Arweiniad Rhieni i Drawsnewid Lles Plant: Yr Hanes a’r Dyfodol (Gwersi o Efrog Newydd)

David Tobis, Ph.D., actifydd lles plant ac awdur From Pariahs to Partners

Sabra Jackson, Eiriolwr Rhiant, actifydd ac Arbenigwr Ymgysylltu â Rhieni yn y Weinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Plant, sy’n goruchwylio’r Cyngor Cynghori Rhieni

Siaradodd David Tobis am darddiad ac ystod eiriolaeth ac actifiaeth rhieni dros les plant yn Ninas Efrog Newydd. Bydd yn disgrifio sut mae esiampl Dinas Efrog Newydd wedi lledaenu i wledydd eraill a rôl y Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni Rhyngwladol i gefnogi’r mudiad eiriolaeth rhieni. 

Siaradodd Sabra Jackson am ei phrofiad personol gyda lles plant a’i rôl gynnar a’i gweithgareddau presennol ynglŷn â diwygio system lles plant Dinas Efrog Newydd.  

Part 2: Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni (PAN) – Gorllewin Morgannwg

Dechreuwch, gwnewch wahaniaeth, a gwnewch iddo ddigwydd (Gwersi o Gwent)

Mae Fiona MacLeod yn gweithio mewn rolau a swyddi amrywiol o fewn gwasanaethau cymdeithasol plant a theuluoedd ers dros 30 mlynedd.  Wrth weithio fel Swyddog Adolygu Annibynnol, mae hi wedi bod yn arwain ar brosiect i ddatblygu eiriolaeth rhieni (PAN) yn rhanbarth Gorllewin Morgannwg dros y flwyddyn ddiwethaf.

Wnaeth Fiona cyflwyno amlinelliad o brosiect PAN yng Ngorllewin Morgannwg sy’n anelu at ddatblygu eiriolaeth rhiant i riant yn y rhanbarth, gyda’r nod o gefnogi a grymuso rhieni trwy brosesau amddiffyn plant a phrosesau llys, gan drafod datblygiadau, heriau, cyfleoedd a dyheadau allweddol.

Mae Sana Malik yn aelod sefydlol o PAN, (ynghyd â Fiona), ac mae’n rhiant-gynrychiolydd sefydledig ar grŵp llywio PAN. Mae hi’n gweithio fel gweithiwr proffesiynol gofal cymdeithasol.  Mae Naomi Hanmer yn gynrychiolydd rhiant mwy newydd i’r grŵp ac mae’n gweithio ym maes y gyfraith. 

Siaradodd Sana a Naomi am eu profiadau personol o’r system lles plant, a’u barn ar sut y gall eiriolaeth rhieni arwain at y newidiadau i fagu hyder a dylanwad rhieni, pontio’r bwlch mewn perthnasoedd â’r gwasanaethau statudol, a sicrhau bod plant yn cael gofal diogel lle bynnag y bo hynny’n bosibl, gartref gyda’u rhieni a’u teuluoedd. 

Gwnaethom gyflwyno recordiad llais o brofiadau nifer o’r rhieni gynrychiolwyr ar y grŵp llywio, eu barn am eu profiadau o ofal cymdeithasol plant, a’r hyn sydd wedi bod fwyaf arwyddocaol yn eu taith.