Mae Ministry of Life Education yn gwmni budd cymunedol sy’n cynnig cyfleoedd technegol a galwedigaethol addysgol amgen i bobl ifanc 11-25 oed ar yr ymylon ac wedi ymddieithrio. Yn ddiweddar rydym wedi llunio cynllun pum mlynedd i reoli twf yn y dyfodol mewn ffordd gyfrifol. Yn hynny o beth rydym yn adnewyddu Bwrdd y Ministry of Life Education ac rydym yn chwilio am bobl sydd ag angerdd am wella bywydau pobl ifanc i ymuno â ni fel aelodau newydd o’r Bwrdd.
Rydym yn cynnig amgylcheddau addysgol amgen, oddi ar y campws, lle gellir cefnogi pobl ifanc mewn lleoliad â mwy o ffocws. Rydym yn cynnig dull unigol gyda’n dysgwyr. Prif nod ein sefydliad yw ymgysylltu â phobl ifanc nad ydyn nhw’n barod ar gyfer addysg brif ffrwd neu’r gweithle, a threulio amser gyda nhw yn gweithio ar bynciau galwedigaethol, i’w helpu i symud ymlaen i addysg bellach neu gyflogaeth. Rydym yn cyflawni’r nod hwn trwy bartneriaethau â Choleg Caerdydd a’r Fro a Chyngor Caerdydd.
Mae gennym draddodiad cryf o weithio gyda phobl ifanc sydd wedi gadael, neu sydd mewn perygl o adael yr ysgol heb fawr o gymwysterau ffurfiol, os o gwbl, a’u cefnogi trwy addysg alwedigaethol. Rydym yn arbenigo mewn modiwlau amlgyfrwng sy’n cynnwys cerddoriaeth a fideo. Mae’r modiwlau hyn wedi profi i fod yn effeithiol wrth ymgysylltu â phobl ifanc a chynnal eu cyfranogiad i’w cwblhau’n llwyddiannus. Rydyn ni’n cynnig cyfle i bobl ifanc ddysgu sut i recordio eu cerddoriaeth eu hunain a chreu fideos. Mae Ministry of Life Education yn galluogi ac yn annog pobl ifanc i ddefnyddio eu hamser yn adeiladol a’u tywys tuag at ddyfodol mwy cadarnhaol.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau neu wneud cais i ymuno â ni fel Aelod o’r Bwrdd, cysylltwch â ni drwy ebostio tim@moleducation.co.uk
@MOLEducation
www.moleducation.co.uk
www.facebook.com/moleducation