Sgyrsiau teuluol ar-lein a thramor yn ystod Covid-19: y gwahaniaethau rhwng teuluoedd Tsieineaidd gyda’i merch a gyda’i mab
Mae myfyrwyr rhyngwladol sydd yn y cyfnod ansicr rhwng bod yn bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion annibynnol wedi bod yn arbennig o agored i niwed yn ystod y cyfnod clo. Mae llawer yn byw ymhell o berthnasau, heb lawer o rwydweithiau cymdeithasol ac yn brin o’r profiad i lywio’u ffordd drwy’r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Ar yr un pryd, newidiodd y ffordd o gymdeithasu. Diflannodd cynulliadau cymdeithasol, wrth i deuluoedd ar draws y byd gyfathrebu’n fwy drwy ddulliau digidol. Mae llawer o deuluoedd wedi bod yn cyfathrebu ar-lein yn lle cwrdd yn gorfforol, yn hytrach na sianel gyflenwol ar gyfer agosatrwydd teulu.
Yn ystod fy mhrofiad fy hun fel myfyriwr yn ystod y cyfnod clo, casglais ddata gan fy nghyfoedion am eu profiadau o gyfathrebu gyda’u teulu yn ystod cyfnod Covid-19. Cynhaliwyd yr ymchwil yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf 2020, ac roedd yn cynnwys cyfweliadau un i un gydag 20 o fyfyrwyr rhyngwladol Tsieineaidd. Roedd y mwyafrif yn sgyrsiau ar y we, wedi’u cynnal gan ddefnyddio’r teclyn cyfathrebu digidol, WeChat, sef ap negeseuon amlbwrpas Tsieineaidd. Dyma’r prif ddewis i deuluoedd ar draws y byd gyfathrebu yn Tsieina; mae apiau negeseuon eraill wedi’u rhwystro yn Tsieina oherwydd sensoriaeth ar y rhyngrwyd (Yang a Liu, 2014). Cynhaliwyd sawl cyfweliad wyneb yn wyneb oherwydd ein bod yn byw yn agos at ein gilydd.
Cefndir yr astudiaeth
Cynhaliwyd cyfweliadau â 10 myfyriwr benywaidd a 10 myfyriwr gwrywaidd, rhwng 19 a 28 oed, ac roeddent yn cynnwys myfyrwyr israddedig, ôl-raddedig a PhD. Er bod y sawl a gafodd eu cyfweld ar lefelau addysg gwahanol, roedd y mwyafrif yn cael cefnogaeth ariannol gan eu teulu dosbarth canol o hyd. Oherwydd cyfyngiadau symud Covid-19, roedd y bobl roeddwn yn eu cyfweld wedi’u lleoli ledled y byd: yn Ewrop, UDA, Awstralia a De-ddwyrain Asia (e.e. Hong Kong a Japan), a phob un yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer astudio dramor.
Ar ôl arolwg demograffig byr (e.e. oedran, rhyw, pwnc astudio a chefndir teuluol), buom yn siarad am eu cysylltiad dyddiol â’u teulu yn ystod y Covid-19 megis amlder cyfathrebu, y dull sgwrsio a ffefrir, lefelau cyfranogiad mamau a thadau, pynciau sgwrsio poblogaidd, ynghyd â’u canfyddiad o newidiadau mewn arferion teuluol o ganlyniad i gyfathrebu digidol (er enghraifft, anfon ‘Arian Lwcus’ ar-lein, sticeri wedi’u hanimeiddio a rhannu cynnwys). Gwnaethom hefyd siarad am hunan-ddatgeliad myfyrwyr wrth gyfathrebu â’u teulu, hynny yw, eu penderfyniad i sensro wrth ddweud rhywbeth o flaen rhieni i reoli’r ffordd maen nhw’n cyflwyno eu hunain yn ddigidol (“Ydych chi’n bwriadu dangos persona ar-lein disgwyliedig neu ddweud rhywbeth y mae’n well gan eich rhieni wrando arno?”).
Canfyddiadau
Yn fras, mae fy ymchwil yn cefnogi astudiaethau blaenorol o gyfathrebu teuluol rhyngwladol sy’n pwysleisio bod technolegau gwybodaeth a chyfathrebu wedi trawsnewid gallu teuluoedd i barhau’n agos er gwaethaf pellter corfforol.
Ac eto, datgelodd fy nata wahaniaethau nodedig rhwng teuluoedd Tsieineaidd gyda merched a’r rhai â meibion. Yn ôl pob golwg, roedd merched Tsieineaidd yn fwy gweithredol wrth gyfathrebu â rhieni, gan ryngweithio’n fwy aml ac roedd y rhyngweithiad o ansawdd gwell. Mae’r merched hynny sy’n hoff o rannu “moment” bywyd personol ar WeChat bob dydd yn parhau i gyfathrebu â’u teuluoedd yn llai aml. Gwnaethant ddyfalu mai’r rheswm dros hyn oedd bod y momentau hyn yn profi eu bod yn ddiogel ac y gallent leddfu pryder rhieni.
Ac eto, datgelodd fy nata wahaniaethau nodedig rhwng teuluoedd Tsieineaidd gyda merched a’r rhai â meibion. Yn ôl pob golwg, roedd merched Tsieineaidd yn fwy gweithredol wrth gyfathrebu â rhieni, gan ryngweithio’n fwy aml ac roedd y rhyngweithiad o ansawdd gwell. Mewn rhai achosion, roedd rhieni’n ceisio cysylltu’n aml fel y gallai eu merched ‘brofi’ eu diogelwch. Roedd hyn yn cynnwys rhoi gwybodaeth gyson i rieni drwy bostio am fywyd personol ar gyfryngau cymdeithasol bob dydd.
Ar yr un pryd, roedd dewisiadau merched a meibion Tsieineaidd yn wahanol o ran pa mor aml i sgwrsio â’r teulu, yn ogystal â ‘rheoli argraff’. Treuliodd merched, er enghraifft, fwy o amser yn siarad am eu bywyd bob dydd – hwn oedd y dewis olaf o bwnc i feibion. Roedd manylion am fywydau a chlecs aelodau teulu yn bynciau poblogaidd mewn sgyrsiau teuluol â merched, ac nid oedd newyddion a gwleidyddiaeth yn cael eu hystyried yn bynciau mor ddiddorol. Roedd bwyd yn thema gyffredin, gyda sawl merch a gafodd eu cyfweld yn nodi eu bod wedi cael rysáit teuluol, yr oeddent wedi’i choginio ac yna wedi anfon llun o’r pryd adref.
Roedd cyfranogwyr benywaidd hefyd yn fwy tebygol o rannu profiad o salwch, straen o astudio ac unigrwydd gyda rhieni, gan ddangos eu parodrwydd i ddatgelu eu dibyniaeth feddyliol ar deulu a mynegi’n glir eu hangen am gefnogaeth emosiynol. Yn wir, ymhlith merched, ystyriwyd mai hwn oedd y rheswm craidd dros gadw mewn cysylltiad â rhieni. Roedd merched hefyd yn well am symud arferion teuluol newydd ar-lein a chynnal perthnasoedd, trwy rannu emojis a memynnau. I rai, roedd rhannu emoji wedi dod yn arfer traws-genhedlaeth newydd, difyr. Fel y dywedodd un ferch a gafodd ei chyfweld, “mae fy mam wedi ‘dwyn’ y memyn a anfonais ati a’i ddefnyddio hefyd. Mae hi’n hoffi dyfalu ystyr memyn penodol. Weithiau bydd hi’n chwarae jôc arna i a dweud, ‘mae’r ci ciwt hwn yn debyg i ti’. Rwy’n hapus i glywed ei bod hi hefyd yn ei hoffi.”
I’r gwrthwyneb, mae bechgyn a gafodd eu cyfweld yn petruso cyn cydnabod bodolaeth angen emosiynol, hiraeth neu broblemau addasu. Mae’n well ganddyn nhw briodoli’r rheswm dros gyfathrebu’n rheolaidd i gyfrifoldeb mabol plant i’w rhieni. I lawer, yn syml ni allent ddod o hyd i air iawn i egluro eu cymhelliant i gyfathrebu â rhieni: “Mae’n rhy gyffredin yn fy mywyd beunyddiol, ac nid wyf erioed wedi meddwl am y rheswm dros gyfathrebu’n gyson â’m teulu. Weithiau, mae’n debycach i glocio i mewn.” Mae ymddygiad goddefol ac agwedd meibion yn deillio’n rhannol o ddisgwyliad cymdeithasol na ddylai dynion ymwneud ag agosatrwydd – yn hytrach dylent fod yn ddewr, yn gryf ac yn canolbwyntio ar eu gyrfa. Gellir ystyried anawsterau wrth hunan-addasu, neu fod yn rhy awyddus i ddangos diddordeb mewn manion bethau teuluol, yn dystiolaeth o sensitifrwydd a bregusrwydd amhriodol. Dewis mab yn y sgyrsiau rhieni hyn yw naill ai diystyru pryderon rhieni yn gyflym, neu siarad am ei ddiddordebau, megis materion gwleidyddol, penderfyniadau teuluol a hobïau personol yn unig.
Er bod y cyfweliadau’n awgrymu bod merched Tsieineaidd yn dda am gael cymorth gan rieni wrth gyfathrebu, yn rhyfeddol roedd mwy na hanner ohonynt hefyd yn bwriadu “gadael argraff ddelfrydol o flaen rhieni”, hynny yw, cynnal delwedd “ddiniwed, cwrtais, positif a hyfryd”. Fel y ‘ferch dda’ a ddisgwylir gan gymdeithas Tsieineaidd, ni ddylai merched adael i rieni boeni na ‘siomi rhieni’. Mae’r bwriad hwn hefyd yn awgrymu bod yn rhaid iddynt ddethol pa agweddau ar eu bywyd a’u meddyliau i’w cyflwyno ar-lein, gan guddio neu beidio siarad am rai materion. Mae rhieni yn aml yn poeni gormod ac â mwy o reolaeth dros ferched, sy’n cael eu hystyried yn fwy agored i niwed na meibion yn y gymdeithas ‘beryglus’. Dangoswyd hyn, mewn rhai achosion, trwy rybuddion llafar dro ar ôl tro, cyngor digymell ar ddeiet iach a gorffwys, sut i dreulio eu hamser rhydd, faint o alcohol i’w yfed ac ymddygiad o ran ysmygu.
Ni ddangosodd meibion awydd cryf i gyflwyno delwedd ‘ddelfrydol’ yn ddigidol wrth gyfathrebu â’r teulu. Nododd y bechgyn a gafodd eu cyfweld, er enghraifft, ei bod yn well ganddynt “ei gadw’n real”. Yn wir, mewn rhai achosion, roedd yn well ganddyn nhw ddarlunio eu bywyd yn negyddol er mwyn lleihau disgwyliad rhieni a’r pwysau posib.
Er bod gan ferched a meibion wahanol arddulliau ar gyfer creu eu delwedd ddigidol i rieni, roedd hunan-ddatgeliad yn seiliedig ar y cydbwysedd rhwng disgwyliadau cymdeithasol eu rhyw, a’u hunaniaeth fel oedolyn newydd. Gydag ymwybyddiaeth o’u hymreolaeth gynyddol, gostyngodd awdurdod rhieni ar gyfer merched a meibion.
Casgliad
Gall astudio cyfathrebu digidol mewn teuluoedd yng nghyd-destun Tsieineaidd ein helpu i archwilio’r berthynas newidiol rhwng rhieni a phlant sy’n symud o’r model cyfnewid rhwng cenedlaethau traddodiadol i gyfathrebu a rhyngweithio ar y cyd. Gall hefyd helpu i egluro’r rhesymau cymdeithasol a diwylliannol dros hunan-ddatgelu a’r hunan digidol yn ôl rhyw.
Yang, Q. a Liu, Y. (2014). What’s on the other side of the great firewall? Chinese Web users’ motivations for bypassing the Internet censorship. Computers in Human Behavior, 37
Mae Yang Shuhan yn fyfyriwr ôl-raddedig ym maes Cymdeithas Ddigidol ym Mhrifysgol Caeredin.
Blog gwreiddiol ar gael yn y Ganolfan Ymchwil ar Deuluoedd a Pherthnasoedd.