Mae’n hysbys bod plant â phrofiad gofal y tu allan i’r cartref (OHC) yn perfformio’n wael yn yr ysgol ac yn y system addysg. Fodd bynnag, rydym yn gwybod llai am eu gyrfaoedd addysgol dros amser, a sut mae eu llwybrau addysgol yn cymharu â’u cyfoedion o’r un oed.
Ar ôl dilyn tua 12 000 o blant a anwyd yn Stockholm am gyfnod o tua 50 mlynedd, sylweddolwyd bod bron i 8% ohonynt wedi’u rhoi mewn gofal OHC ar ryw adeg cyn eu pen-blwydd yn 13 oed.
Mae’r cyflwyniad hwn yn disgrifio cyfres o astudiaethau o yrfaoedd addysgol plant sydd â phrofiad o OHC dros gwrs bywyd. Yn benodol, mae’n canolbwyntio ar ba oblygiadau y gallai canlyniadau’r astudiaethau hyn eu cael i’r system addysg a lles plant sy’n gyfrifol am anghenion addysgol plant OHC heddiw.
Cyflwynir gan
Dr Hilma Forsman
Adran Gwaith Cymdeithasol
Prifysgol Stockholm