Dydd Iau, 4 Chwefror 2021
10:00am – 11:30am


Rhithwir, trwy Zoom
Heb ei osod Zoom? Os nad ydych wedi lawrlwytho Zoom, peidiwch â phoeni gallwch barhau i ymuno trwy eich porwr gwe

Wrth baratoi ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel ar 9 Chwefror 2021, bydd Plant yng Nghymru yn cynnal ail ddigwyddiad rhwydweithio AM DDIM.

Bydd Mike Mainwaring, un o’n hyfforddwyr profiadol dros ben sydd â phrofiad helaeth ym maes hawliau a chyfranogiad plant, yn rhoi cyflwyniad yn canolbwyntio ar sut gall defnydd plant a phobl ifanc o’r rhyngrwyd effeithio ar hawliau plant. Bydd Mike yn sôn yn fanwl am ambell erthygl allweddol o CCUHP, gan drafod, o safbwynt hawliau plant, y cyfleoedd a’r bygythiadau sy’n wynebu plant a phobl ifanc yng nghyswllt y rhyngrwyd.

Yn dilyn y cyflwyniad, bydd cyfle i drafod a rhwydweithio mewn grwpiau llai.

Mae’r digwyddiad AM DDIM a chynigir lleoedd ar sail y
cyntaf i’r felin.

Bydd rhan o’r digwyddiad yn cael ei recordio felly os na allwch fod yn bresennol, neu os na fyddwch yn llwyddo i gadw lle, byddwn yn lanlwytho’r cyflwyniad i’n gwefan ar ôl y digwyddiad.

Sylwer eich bod, wrth gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, yn cytuno y bydd eich enw, eich sefydliad a’ch cyfeiriad e-bost yn cael eu rhannu gyda’r cynrychiolwyr eraill ar ôl y digwyddiad.