Ar y 21ain o Fehefin (Caerdydd) a’r 26ain o Fehefin (Bangor) croesawodd ExChangeNatalie Roberts o Brifysgol Bangor i gyflwyno gweithdy ar brofiadau pobl ifancdigartref sy’n byw mewn llety a chefnogaeth. Rhannodd canlyddiadau y prosiect a wnaed trwy weithio gydag elusen digartrefedd, wedi’w leoli yng Ngogledd Cymru, Digartref.

Mynychodd llawer o bobl broffesiynol, gyda nifer ohonynt yn gweithio yn y sector tai cymdeithasol. Roeddem yn ffodus hefyd i gael presenoldeb nifer o’r bobl ifanc oeddyn gysylltiedig i’r prosiect ymchwil.

Amcanion y gweithdy oedd:

Archwilio rhai o’r materion a rhwystrau mae pobl ifanc yn ei brofiadu tra’n byw mewnllety a chymorth.

Rhoi cyfle i ymarferwyr ystyried eu profiadau a chynnig datrysiadau addas.

Er mwyn rhoi cyd-destun i’r astudiaeth, nodwyd rhai nodweddion craidd o letya chymorth:

‘Rhwyd diogelwch’ – darparu llety dros dro i leihau’r peryg di-oed o ddigartrefedd

Tŷ wedi ‘rhannu’ – gyda phobl ifanc, yn aml rhwng yr oedrannau 16-25.

‘Cymorth’ – cymorth unigol i weithiwr allweddol mewn maesiau megis iechyd meddwl, byw a sgiliau cymdeithasol.

Gweithgaredd grŵp: Gêm bwrdd – Beth fyddech chi’n blaenoriaethu os fyddech chi’ndylunio rhaglen llety a chymorth?

Mewn grwpiau bach, rhoddwyd £250,000 i fynychwyr (arian ffug!) er mwyn rhannucyllid. Roedd pob sgwâr yn cynrychioli adnodd megis ‘cwnsela’, ‘tocyn bws’, ‘gweithgareddau bach pob wythnos’, ‘sgiliau rheoli arian’, ‘CCTV’ a ‘phrofi cyffuriau’.

Ar y cyfan, dewisodd mynychwyr ardaloedd oedd yn canolbwyntio ar y bobl ifanc ac yn blaenori anghenion e.e. gliniadur, gweithgareddau bach. Dewisodd rhan fwyafohonynt i beidio gwario arian ar fwy nag un math o adnodd awdurdodaidd fel CCTV a phrofi cyffuriau. Er hyn, nododd rhai mynychwyr dylai yr rhain gael eu hystyried ynoresgyniadau o breifatrwydd, efallai byddai eraill yn teimlo’n fwy diogel gyda rhain ynei le.

Rhwystrau a materion

Yna symudodd y gweithdy ymlaen i ystyried y rhwystrau a’r materion sydd yngwynebu y rhai mewn llety a chymorth. Daeth pum parth i’r golwg o’r ymchwil.

Iechyd Meddyliol

Stigma

Maeth

Addysg

Cyflogaeth

1. Iechyd Meddyliol – ‘Wedi gadael i lawr gan wasanaethau’

‘Staff yn cymryd pob swydd’ – Oherwydd toriadau mae yna ddibyniaeth ar staff hostel sydd heb hyfforddiant yn faterion iechyd meddwl. Cytunodd nifer o fynychwyr gydahyn gan ddweud eu fod nhw’n ‘gwneud eu gorau glas’ wrth ddelio gydag anghenioniechyd meddyliol cymhleth.

Gwasanaethau Iechyd Meddyliol Plant a Phobl Ifanc dim yn effeithiol – cefnogwydhyn gan fynychwyr a phobl ifanc.

Awtistiaeth – Nid yw hosteli wedi cyfarparu ar gyfer awtistiaeth (synauuchel/larymau/newidiadau yn rhigolaeth). Mae’r ymchwil ac ymwybyddiaeth prin yngallu gwneud lletyau â chymorth yn llefydd trallodus iawn i berson ifanc gydagawtistiaeth.

2. Stigma

‘Nid yn fy ngardd gefn i’ – Yn aml roedd gan gymunedau lleol rhagfarn o ddigartrefedd ac ofn cael llety a chymorth yn ei ardaloedd.

Landlordiaid yn gwrthod rhentu i bobl ifanc digartref

Stigma gan ffrindiau – teimlo’n unig ac yn siomedig

3. Maeth

Mae adnoddau cyllid cyfyngedig a diffyg gwybodaeth maethiannol yn golygu bod nifer o bobol ifanc digartref yn bwyta bwyd o safon isel.

Banciau bwyd: Gorfodwyd nifer o bobl i ymweld â banciau bwyd sydd prin yndarparu bwyd maethiannol ac yn cyfrannu’n bellach i stigmateiddio pobl ifanc.

Mae canlyniadau iechyd hyn yn effeithio’r tymor byr (iselder, blinder, ffwythiantgwybyddol cyfyngedig) a thymor hir (gordewdra, clefyd calon, cancr).

4. Cyflogaeth – ‘Gwrthddywediad yn y system – Swydd neu dŷ?’

Oherwydd y system tai budd-dal, yn aml gorfodwyd pobl ifanc i wneud dewis rhwngcael cyflogaeth neu aros mewn llety â chymorth.

Hefyd, trafododd y mynychwyr rhwystrau systematig eraill sydd yn aml yn cael eucymryd yn ganiataol. Er enghraifft, os mae person ifanc yn ceisio am swydd, mae nhw’n aml yn llai tebygol o gael eu hystyried os ydyn nhw’n rhoi lawreu cyfeiriad hostel. O ganlyniad mae nhw naill ai’n colli’r cyfle neu angen defnyddiocyfeiriad arall gan berthynas neu ffrind.

5. Addysg

Nad yw athrawon yn aml yn holl ymwybodol am ddigartrefedd ieuenctid a’r materionwedi wynebu gan y rhai sy’n byw mewn llety â chymorth.

Amgylchedd hostel – yn aml ddim yn ffafriol i ddysgu:

Dyfodiad i adnoddau yn brin, Wi-Fi gwael

Yn aml yn swnllyd

Anawsterau trafnidiaeth yn enwedig mewn ardaloedd gwledig

Dim yn gallu fforddio teithiau ysgol, adnoddau addysgiadol – teimlad o unigrwydd a gwahardd ​​SML

Datrysiadau: Rhai o’r nifer o ddatrysiadau wrth yr ymchwil a mynychwyr

1. Iechyd Meddyliol

Carden felen – darparu ciw tawel i wneud staff hostel yn ymwybodol bod chi ddim yniawn – helpu gydag ymestyn allan pan mae siarad yn teimlo’n chwithig.

2. Stigma

Gwaith allanol mewn cymuned ac ysgolion i gynyddu ymwybyddiaeth a herio stigma.

Mynychwyr: Addysgu’r rhai sydd ‘ofn’ digartrefedd ieuenctid e.e. Landlordiaid

3. Maeth

Sesiynau siopa a choginio wythnosol

Mynychwyr: Pecyn cymorth ar-lein sy’n rhoi’r holl wybodaeth yn un lle. E.e. APPs megis ‘Too Good To Go’ sydd yn helpu dosbarthu a defnyddio bwyd a fydd felarall yn cael ei wastraffu.

4. Cyflogaeth

Yn gorfod talu am yr elfen ‘rhent’ (nid cymorth) os mae ganddyn nhw gyflogaeth – dull teg, a fydd yn galluogi person ifanc i gael cymorth wrth sicrhau sefydlogrwydd ynei swydd newydd.

Mynychwyr: Adeg trawsnewid o 6-12 mis ar gyfer rhai sydd yn symud ymlaen – galluogi nhw i ennill annibyniaeth a sefydlogrwydd yn eu llety newydd sydd yn gallubod yn brofiad llethol.

5. Addysg

Addysgu athrawon: elusennau digartref/hosteli yn adeiladu cysylltiadau gydagysgolion

Cynigiad – corfforiad o fodiwl ‘cefnogi digartrefedd’ mewn hyfforddiant athrawon

Mae nifer o ddatrysiadau defnyddiol a chreadigol iawn o’r prosiect ymchwil wedidarparu yn y sleidiau Pwynt Pŵer.

Buddion llety â chymorth

Er gwaethaf y rhwystrau, mae’n bwysig cydnabod buddiannau llety a chymorth a’rswydd allweddol sydd ganddo:

Dyfodiad i gymorth a chyfle i ddatblygu sgiliau

Cymdeithasu/Lleihau arwahaniad: ffrindiau newydd, medru creu perthnasoeddcadarnhaol gyda staff (sydd o gwmpas yn gyson)

Sefydlogrwydd a theimlad o ‘gartref’

Gorffennodd y diwrnod gyda sesiwn Q&A cyflym gyda’r bobl ifanc lle’r oedd ganddynnhw’r cyfle i rannu eu profiadau.

Meddyliau Terfynol

Mae angen rhoi sylw i’r rhwystrau sydd yn gwynebu pobl ifanc mewn lletya chymorth er mwyn iddynt gael dyfodiad cyfartal i lety, cyflogaeth, addysg a iechyd meddwl – ni allwn barhau eu gorfodi nhw i ddewis. Mae llawer o fai ar ffactorauallanol gyda chyfyngiadau ariannol yn gwaethygu’r broblemau a gwahaniaethusystematig a stigma yn gwadu pobl ifanc o’r cyfleoedd maen nhw’n haeddu.

Diolch yn fawr i Natalie Roberts o Brifysgol Bangor a’r bobl ifanc am rannu eu gwaithgyda ni yn y gweithdy yma.