Cyflwynodd Dr. Clive Diaz y webinar a gosododd yr amcanion:• ystyried beth rydym yn gysidro fel cyfranogaeth plant• adborth darganfyddiadau o ymchwil gyda phlant a phobl broffesiynol• trafod heriau a galluogwyr i sicrhau cyfleoedd ar gyfer cyfranogaeth ystyrlonplant a phobl ifanc• ystyried sut medrwn ni wella ymarfer ynglŷn â chyfranogaeth plant

Cychwynnodd Clive gan cyflwyno’r ysgol o gyfranogaeth, yn wreiddiol gan Sherry Arnstein (1969) a wedi categoreiddio gan Roger Hart.

Hefyd, trafododd Clive y ‘wal ddringo’ o gyfranogaeth (Thomas 2002) sydd yncynnwys awtomiaeth, dewis, rheolaeth, gwybodaeth, cymorth a llais. Mae cyfranogaeth plant yn bwysig oherwydd mae’n gwella hyder, hunan-effeitholrwydd a hunanwerth (Dickens et al. 2015). Mae hefyd yn gydnabyddiaeth o’u hawliausifil (Schofield & Thoburn 1996).

Cyfranogaeth plant mewn cyfarfodydd teulu a phroffesiynol: DarganfyddiadauAdroddiad Realaidd

Cyflwynodd Lorna Stabler a Dr Chloe O’Donnell o CASCADE gwaith arolwgdiweddar sy’n cael ei wneud ar gyfranogaeth plant mewn cyfarfodydd teulu a phroffesiynol.

Ystyriodd y cyflwyniad darganfyddiadau o arolwg realaidd o dystiolaeth, yn amlygubeth sydd angen digwydd cyn ac yn ystod y cyfarfod, ac yna’r canlyniadau positifposib ar ôl cyfranogaeth ystyrlon. Hefyd edrychodd yr arolwg ar amodau sydd angenbodoli cyn cyfarfod yn ogystal â sut mae’n bosib corffori’r lleisiau o blant a phoblifanc sydd ddim yn mynychu.

Prosiect Ymchwil

​​Trafododd Dr. Clive Diaz o CASCADE prosiect ymchwil oedd yn ymwneud gyda ac yn cyfweld a 10 person ifanc, 11 gweithiwr cymdeithasol, 8 swyddog adolyguannibynnol a 7 rheolwr hyn i gasglu eu barnau ar gyfranogaeth plant.

Prif rwystrau yr ymchwil oedd, trosiant uchel o staff, llwythi achosion uchel, gweithludibrofiad, dadbersonoli, diffyg dealltwriaeth a hyfforddiant cyfranogaeth. Safon y perthnasoedd rhwng y plentyn a’r bobl broffesiynol, ynghyd a phobl ifanc yn cadeiriocyfarfodydd eu hunain oedd y prif alluogwyr i gyfranogaeth ystyrlon.

Darganfyddodd yr ymchwil bod yna wahaniaeth mawr rhwng yr atebion gan weithwyrcymdeithasol neu swyddogion adolygu annibynnol a’r rhai gan reolwyr hyn am lwythiachosion, a’r ddealltwriaeth am ystyr ‘cyfranogaeth’.

Gorffennodd prosiect ymchwil Clive gydag awgrymiadau megis:• Adolygu llwythi achosion ar gyfer swyddogion adolygu annibynnol a gweithwyrcymdeithasol• Pobl ifanc i dderbyn hyfforddiant ar gadeirio cyfarfodydd eu hunain• Rheolwyr hyn i dreulio amser yn cysgodi gweithwyr cymdeithasol pob blwyddyn• Gwell ddefnydd o IT• Edrych ar adolygon fel profiad pleserus ar gyfer pobl ifanc a dathlullwyddiannau, efallai mwy fel cynhadledd Grŵp Teulu.

I wylio’r webinar, pwyswch yma 

I lawr lwytho’r Pwynt Pŵer, pwyswch yma