Er bod llai o gyfyngiadau ledled Cymru bellach, mae’n amlwg bod Covid-19 wedi trawsffurfio sawl peth yn ein bywydau. Mae’n bwysig cloriannu’r newidiadau ynghylch sut mae ymarferwyr wedi ymgysylltu â phobl ifanc a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod ac a fyddai’n well cadw rhai o’r newidiadau hynny ar ôl y pandemig.
I ddeall rhagor am y ffordd yr ymatebodd y sector i’r pandemig yng Nghymru, daeth yr NSPCC â chynrychiolwyr gofal cymdeithasol, iechyd, addysg, gwaith ieuenctid, heddluoedd a’r trydydd sector ynghyd ar 5ed Mehefin 2021 i gnoi cil ar arferion gorau asesu a rheoli risgiau diogelu yn ddigidol yn ystod COVID-19. Wedyn, llunion ni gynghorion a chanllawiau ar ffyrdd o leddfu anawsterau a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ynghylch helpu plant trwy dechnoleg ddigidol.
Dangosodd ein gwaith yn eglur y gall fod buddion trwy ddefnyddio technolegau digidol i ymgysylltu â theuluoedd.
Buddion a allai ddeillio o dechnoleg ddigidol
- Gall sgyrsiau, sesiynau therapiwtig a chyfarfodydd trwy ffôn neu fideo deimlo’n llai bygythiol a dwys na chyfarfodydd wyneb yn wyneb mewn swyddfa neu ymweliadau â chartref rhywun.
- Mewn rhai achosion, mae gweithio rhithwir wedi hwyluso rhyngweithio mwy chwareus â phlant.
- Gall fod yn haws i rieni a chynhalwyr ymuno â chynadleddau amddiffyn plant ar y we, hefyd.
Rhaid manteisio ar y cyfle i hybu’r buddion hyn. Mae technoleg ddigidol yn agor drysau at ffyrdd newydd o ymgysylltu â rhagor o bobl mae angen cymorth a chefnogaeth arnyn nhw er y gallai fod:
Meini tramgwydd o ganlyniad i ddibynnu ar dechnoleg ddigidol
- Mae rhai teuluoedd heb gyfleusterau ar-lein, band eang neu gysylltiadau dibynadwy â’r Rhyngrwyd.
- Efallai bod cyfleusterau gan rai rhieni ond heb allu fforddio eu trydanu neu eu cysylltu.
- Gall technoleg arwain at flinder dros amser.
- Materion cyfrinachedd – gallai fod yn anodd dod o hyd i fan tawel, preifat lle na all neb arall eu clywed.
- Gallai fod yn anodd i ymarferwyr ofalu na fydd eu teuluoedd, eu plant neu eu cydbreswylwyr yn clywed sgyrsiau cyfrinachol a phoenus.
Er na fyddai modd osgoi pob perygl neu anfantais ynghylch technoleg ddigidol, rydyn ni wedi pennu’r arferion gorau er cymorth i ymarferwyr.
Arferion da
- Llunio cytundeb cydweithio â phlant a theuluoedd gan bennu amser a lle pob sesiwn a sut mae cadw cyfrinachedd.
- Defnyddio amryw ffyrdd o alluogi plant a theuluoedd i fynegi eu barn. Er enghraifft, cyfuniad o alwadau fideo, ffôn a negeseuon testun. Mae hynny’n arbennig o berthnasol yng nghyd-destun ailagor ac angen gwasanaeth cyfun.
- Gall ymarferwyr drafod pwysigrwydd cyfrinachedd ar ddechrau sesiynau, gan wneud hynny mewn ffordd ac iaith dringar.
- Gallan nhw ddefnyddio’r asesiadau diweddaraf o risgiau i drin a thrafod unrhyw faterion ynghylch technoleg ddigidol.
- Dylai sefydliadau ystyried rhoi clustffonau i ymarferwyr a pharatoi canllawiau am yr arferion gorau i’r rhai sy’n gweithio gartref.
Yn ogystal â grymuso ymarferwyr, daeth nifer o egwyddorion allweddol eraill i’r amlwg yn ystod ein trafodaeth. Mae cam-drin plant ar-lein yn waeth nag erioed bellach. Mae mwy a mwy o blant bach yn defnyddio’r we ac, yn ogystal â’u haddysgu ynghylch bod yn saff ar-lein, rhaid eu galluogi i dynnu sylw at unrhyw beth sydd wedi digwydd neu unrhyw sefyllfa lle nad oedden nhw’n teimlo’n ddiogel.
At hynny, mae angen canolbwyntio ar ffyrdd o helpu plant i ailddechrau chwarae ar ôl bod yn gaeth i’w cartrefi, gan gynnig amser a lle iddyn nhw wella’n deimladol yn sgîl cyfnod arbennig o anodd.