Ysgrifennwyd gan Dr Oliver Davis

Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Treftadaeth CAER wedi datblygu o ddechreuadau digon di-nod i fod yn brosiect Archeoleg Gymunedol a Chenhadaeth Ddinesig genedlaethol arobryn ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar faestrefi Caerau a Threlái yng Nghaerdydd – dwy o’r wardiau mwyaf difreintiedig yn gymdeithasol ac economaidd yng Nghymru gyfan, ond sydd hefyd yn gartref i nifer o safleoedd treftadaeth o bwys cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Bryngaer Caerau. Tan i’r prosiect hwn gychwyn, doedd yr ‘asedau’ treftadaeth hyn ddim wedi cael fawr o ddefnydd na chael eu gwerthfawrogi, ond drwy waith CAER maen nhw bellach wrth galon adfywio cymunedol, addysg a lles.

Caiff holl weithgareddau CAER eu cyd-greu ac maen nhw wedi cynnwys geoffiseg, cloddiadau, dadansoddi arteffactau, arddangosfeydd, gosodiadau celf, ffilmiau, perfformiadau, cyrsiau achrededig ac archaeoleg arbrofol.  Lansiwyd cam presennol y prosiect, ‘Prosiect y Fryngaer Gudd’, ym mis Ebrill 2019, ac mae’n creu canolfan treftadaeth ar safle Bryngaer Caerau ynghyd â llwybrau treftadaeth, dehongli, a chyfleoedd i wirfoddoli i helpu i gyd-ymchwilio a chyd-guradu’r heneb. Rhan allweddol o’r gwaith hwn yw cyfraniad gwirfoddolwyr, partneriaid ac ymwelwyr – dros 10 mlynedd mae dros 3,000 o gyfranogwyr wedi cyfrannu at gyd-gynhyrchu ymchwil ac rydym ni wedi ymgysylltu â dros 15,000 o ymwelwyr mewn digwyddiadau CAER.  Mae’r prosiect wedi gweithio gyda 15 o bartneriaid sefydliadol ac wedi meithrin partneriaethau gyda 7 ysgol leol a chynnwys 1,500 o ddisgyblion mewn gweithgareddau sydd wedi’u cyd-gynhyrchu.

Mae mesur effaith y gwaith hwn yn anodd, ond yn hanfodol. Rydym ni’n casglu data meintiol ac ansoddol gyda phwyslais arbennig ar gynhyrchu straeon personol trwy’r broses werthuso Newid Mwyaf Sylweddol. Ymhlith y buddion a nodwyd mae newid agweddau at gyfranogi mewn treftadaeth, herio stigma sy’n gysylltiedig â’r cymunedau hyn, a thrawsnewid cyfleoedd addysgol i bobl leol. Ond un peth sy’n gynyddol bwysig i ni yw’r effaith cadarnhaol y gall cymryd rhan yng ngweithgareddau CAER ei gael yn gorfforol ac o ran iechyd meddwl a lles. Roedd hyn i’w weld yn amlwg yn nifer o weithgareddau cynnar y prosiect gyda chyfranogwyr yn aml yn myfyrio ar natur therapiwtig gweithio gyda thîm CAER. Mae hyn wedi dod yn amlycach fyth dros y blynyddoedd diwethaf gyda dechrau grwpiau gwaith gwirfoddol wythnosol. Mae cyfranogwyr yn dod o hyd i ni trwy ystod o wahanol asiantaethau, yn enwedig ein partner cymunedol a’n sefydliad datblygu cymunedol lleol Gweithredu yng Nghaerau Threlái (ACE). Maen nhw’n cymryd rhan mewn pob math o bethau o godi sbwriel a chlirio llystyfiant o’r llwybrau, i arddio ac ymchwil archeolegol, ac yn dweud yn rheolaidd bod eu hyder, eu hunaniaeth a’u hymdeimlad o hunanwerth yn codi. Mae cydweithio rheolaidd yn helpu i greu cymunedau newydd a rhwydweithiau cymdeithasol newydd lle caiff cyfranogiad pawb ei werthfawrogi.

Rydyn ni’n credu’n gryf y gall treftadaeth ac archaeoleg fod â gwerth cymdeithasol ac economaidd enfawr i unigolion a chymunedau a ddylai fod ar gael i bawb. I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith ewch i’n gwefan neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol (@CAERHeritage; Facebook.com/CAERHeritageProject)

Delweddau o wirfoddolwyr isod:

Volunteer gardening
Volunteer gardening