Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi derbyn holl argymhellion adroddiad ar Gymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd i ysgolion.

Mae’r Gweinidog wedi cadarnhau hefyd y caiff £500,000 ei ddarparu tuag at weithredu argymhellion yr adroddiad, fel rhan o’r broses o roi cwricwlwm newydd Cymru ar waith.

Mae’r adroddiad gan Weithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd, a gadeirir gan yr Athro Charlotte Williams OBE, yn gwneud 51 o argymhellion i gyd.

Mae’r argymhellion yn canolbwyntio ar nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys gwella adnoddau addysgol, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol y gweithlu, ac Addysg Gychwynnol Athrawon.

Mae’r adroddiad hefyd yn gwneud argymhellion ynghylch materion fel cynaliadwyedd a phwysigrwydd gweithredu ar lefel yr ysgol gyfan, gan gynnwys rhieni, llywodraethwyr a chymunedau ehangach.

Yn y cwricwlwm newydd, a gaiff ei addysgu i ddysgwyr iau o 2022, bydd hanes Cymru a’r amrywiaeth o’i fewn yn orfodol o fewn y Dyniaethau, un o chwe Maes Dysgu a Phrofiad y cwricwlwm. Mae’r datganiad o’r hyn sy’n bwysig o ran y Dyniaethau, y ‘syniadau mawr’ a’r prif egwyddorion ym mhob Maes yn cyfeirio at ddealltwriaeth gyffredin o hanes amrywiol, treftadaeth ddiwylliannol ac amrywiaeth ethnig Cymru a’r byd ehangach.

Wrth i’r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi, dywedodd yr Athro Williams:

“Mae’r gwaith hwn yn ddigynsail, ac mae ei angen yn fawr. Mae’r adolygiad yn torri tir newydd o ran diwygio’r cwricwlwm yng Nghymru.

Mae’r hyn sy’n digwydd mewn ysgolion ledled Cymru, y ffordd y maen nhw’n ymateb i bryderon yr adroddiad hwn, yn gweithredu arnyn nhw ac yn cynnal y gwaith hwnnw yn hollbwysig i les plant a phobl ifanc yng Nghymru, i les y rheini sydd o gefndiroedd lleiafrifol ac i les cymdeithas yn gyffredinol.

All addysg ynddo’i hun ddim mynd i’r afael â’r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol a strwythurol sy’n cynnal anghydraddoldeb hiliol. Fodd bynnag, gall addysgu fynd gryn ffordd i greu dinasyddion egwyddorol a gwybodus y dyfodol.

Dw i’n hyderus y bydd cynigion yr adroddiad hwn yn galluogi’r gymuned addysg i fynd i’r afael yn fwy systemataidd â’r maes blaenoriaeth hwn ac ymateb iddo gyda’i gilydd.”

Yn ei hymateb i’r adroddiad terfynol, dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Dw i’n ddiolchgar iawn i’r Athro Williams a’r Gweithgor am yr adroddiad, sy’n drylwyr ac yn dreiddgar, gan gynnig gwirioneddau anghysurus ac argymhellion clir.

Fel y mae’r adroddiad yn ei nodi, dim ond drwy ddatgelu amrywiol safbwyntiau a chyfraniadau cymunedau lleiafrifoedd ethnig at ddatblygiad Cymru ar hyd ein hanes a hyd heddiw y gallwn gyfoethogi ein cwricwlwm newydd.

Os ydyn ni i gyflawni un o ddibenion craidd ein cwricwlwm newydd, sef datblygu pobl ifanc sy’n “ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd”, rhaid inni sicrhau bod profiadau plant yn cael eu hehangu drwy ddod i gysylltiad â safbwyntiau, themâu a chyfraniadau lleiafrifoedd ethnig.

Dw i wrth fy modd yn cael derbyn holl argymhellion yr adroddiad a rhoi cymorth ariannol i sicrhau bod yr argymhellion hyn yn cael eu gweithredu’n llawn.

Gan ategu gwaith yr adroddiad addysg, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb Hiliol yr wythnos nesaf, sef ‘Cymru Wrth-hiliol’, sy’n amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hiliaeth strwythurol a systemataidd a chreu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030.”