Ym mis Hydref 2022, cadeiriodd yr Athro Sally Holland, a fu gynt yn Gomisiynydd Plant Cymru, ddigwyddiad yng Nghanolfan CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd a oedd yn gyfle i tua 50 o randdeiliaid plentyndod o bob rhan o bolisi, ymchwil a chymdeithas sifil, a phobl ifanc eu hunain, i drafod canfyddiadau ac egwyddorion adroddiad Reframing Childhood yr Academi Brydeinig mewn cyd-destun Cymreig. Roedd y prif siaradwyr yn cynnwys Julie Morgan AS, ynghyd â’r Farwnes yr Athro Ruth Lister FBA, a gadeiriodd y Rhaglen Polisi Plentyndod.
Disgrifiodd Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, sut yr oedd yr egwyddorion a amlinellwyd yn adroddiad diweddar yr Academi Brydeinig ar blentyndod yn tycio mewn cyd-destun Cymreig, gan gynnwys sut y bu i gyfranogiad plant a phobl ifanc wreiddio’n gadarn yn ystod pandemig Covid, lle y gwnaethant gyfrannu tuag at benderfyniadau allweddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar gyfnodau clo a chyfyngiadau eraill.
Reframing Childhood yw adroddiad terfynol y rhaglen Polisi Plentyndod, ac mae’n canolbwyntio ar dair thema. Yn gyntaf, mae bod yn blentyn o’i gymharu â bod yn oedolyn yn ystyried ble y mae’r cydbwysedd mewn polisi rhwng canolbwyntio ar blant fel plant ac ar ganolbwyntio ar blant fel oedolion y dyfodol. Mae’r ail thema yn ymchwilio i ddulliau hawliau plant mewn perthynas â ffurfio polisi, cyflawni, a deddfu. Y thema olaf yw llais a chyfranogiad plant, gan ganolbwyntio ar sut y gellir ymgorffori lleisiau plant, yn eu hamrywiaeth, yn llwyddiannus mewn polisi. Yna mae’r adroddiad yn amlinellu saith egwyddor sy’n sail i dystiolaeth ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn yr ecosystem polisi:
- Ail-gydbwyso safbwyntiau o ran yr hyn sydd a’r hyn a fydd wrth lunio polisïau
- Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’i fanteision ar gyfer agendâu polisi presennol
- Ymagweddu’n bragmatig, yn seiliedig ar dystiolaeth, at hawliau plant
- Ymgorffori lleisiau plant yn natblygiad a gwerthusiad polisi plentyndod, lle bynnag y bo modd
- Cydlynu llunio polisi ar draws pob adran a lefel o lywodraeth
- Cyfathrebu polisi sy’n cael effaith ar blant mewn ffyrdd sy’n hwylus i blant
- Monitro effaith polisïau presennol ar blant
Ymhlith y pynciau a drafodwyd gan siaradwyr roedd y cynnydd y mae Cymru wedi’i wneud mewn perthynas â’r egwyddorion yn Reframing Childhood, a hefyd lle’r oedd lle i wneud mwy. Yn ogystal â thrafod sut yr oedd egwyddorion yr adroddiad yn atseinio yn ystod y pandemig, siaradodd y Gweinidog hefyd am y dull hawliau plant a gymerwyd yng Nghymru, mewn perthynas â’r gwaharddiad ar gosbi plant yn gorfforol, a gyflwynwyd yn gynharach yn 2022. Er hynny, roedd hi’n cydnabod mai dim ond cam cyntaf y broses yw’r gwaharddiad, ac er mwyn bod yn effeithiol mae angen pwyslais nawr ar agweddau fel codi ymwybyddiaeth o’r gwaharddiad a chynnig unrhyw gymorth angenrheidiol i deuluoedd.
Siaradodd Ruth Lister am sut y lansiodd yr Academi Brydeinig y rhaglen plentyndod yn 2018 yn rhannol oherwydd i natur dameidiog polisi plentyndod ar draws adrannau’r llywodraeth ac ar wahanol lefelau o lywodraeth gael effaith ar yr academi, a sut y gallai’r natur dameidiog hon arwain at bolisïau anghyson, neu at bolisi plentyndod yn disgyn rhwng y bylchau. Hefyd, sut y gellid gwella ein dealltwriaeth o blentyndod a pholisïau sy’n effeithio ar y ddealltwriaeth honno trwy ddod â lens wyddonol gymdeithasol a dyniaethau rhyngddisgyblaethol i’w astudiaeth. Trafododd Ruth fel y daeth deall amrywiadau rhwng pedair rhan y Deyrnas Unedig yn fater pwysig yn gyflym iawn, ac roedd hyn yn benodol o wir yn achos hawliau plant. At hyn, mae’r dulliau gwahanol iawn a gymerwyd gan rannau gwahanol y DU yn tanlinellu pwysigrwydd y cyd-destun gwleidyddol a pholisi ehangach wrth wneud synnwyr o sut mae plant yn cael eu trin.
Roedd y bobl ifanc a gymerodd ran yn pwysleisio bod ‘polisïau yn gallu gwneud neu dorri plant’ ac felly mae’n hanfodol bod plant a phobl ifanc yn cael llais go iawn mewn polisïau sy’n effeithio arnyn nhw. Dywedon nhw eu bod yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu gadael allan o drafodaethau, ac nad oedd eu profiadau byw o faterion, er enghraifft tlodi plentyndod neu anghydraddoldeb, bob amser yn cael eu hystyried gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Hefyd, bod profiad plant o bethau’n aml yn wahanol i brofiad oedolion, ac felly mae’n hanfodol bod eu lleisiau’n cael eu cynnwys. Fe bwysleision nhw hefyd nad yw polisïau yn unig yn ddigon i wella bywydau plant a phobl ifanc – mae angen gwerthuso effaith polisïau hefyd.
Cafwyd trafodaeth eang ac ymhlith rhai o’r pynciau eraill a drafodwyd roedd:
- Mae model cyfranogiad plant Cymru yn dangos ymrwymiad i hawliau plant, ond nid yw ei weithredu bob amser yn syml. Gall materion godi gyda hawliau plant yn cael eu ‘neilltuo’ i adrannau penodol, yn hytrach nag yn cael eu gwreiddio ar draws y llywodraeth.
- Yr amrywiaeth ymhlith plant a phobl ifanc, a’r heriau y gall hyn eu hachosi i ymgorffori eu safbwyntiau mewn polisi. Er enghraifft, sut y gellir ymgorffori lleisiau plant cyn-ysgol ac oed cynradd, neu rai grwpiau penodol (megis plant ag anabledd neu rai sydd wedi’u gwahardd o’r ysgol)?
- Mae trawsnewid o blentyndod i fod yn oedolyn weithiau yn cael ei gyflwyno fel proses linellol heb broblemau, ond gall y realiti fod yn fwy cymhleth. Bydd agweddau megis heriau corfforol neu iechyd meddwl, neu adael gofal, yn effeithio ar sut y caiff y trawsnewid hwn ei brofi gan unigolion.
Ar y cyfan, roedd y digwyddiad yn gyfle gwerthfawr i drafodaeth sy’n ysgogi’r meddwl ar themâu Reframing Childhood, a meddwl am y camau a’r heriau nesaf posibl sy’n gysylltiedig â symud ymlaen â’r egwyddorion mewn cyd-destun Cymreig.
Nicola Berkley, Uwch Gynghorydd Polisi, Yr Academi Brydeinig
Dysgwch ragor am Raglen Polisi Plentyndod yr Academi Brydeinig.