Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn nodi bod angen buddsoddi ar frys mewn gwasanaethau ataliol ac ymyrryd yn gynnar. Mae’r Pwyllgor yn credu y gallai’r gofid y mae llawer o blant a phobl ifanc yn ei oddef gael ei leihau neu hyd yn oed ei osgoi drwy eu galluogi i fanteisio ar y gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir, mewn ysgolion ac mewn gofal sylfaenol ledled Cymru.

Yn rhan o ymchwiliad eang y Pwyllgor i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru, galwodd rhanddeiliaid yn groch am fwy o bwyslais ar ymyrraeth gynnar a datblygu cadernid emosiynol. Mae hyn yn cynnwys ymgorffori iechyd meddwl yn rhan o’r cwricwlwm newydd a sicrhau bod gwasanaethau eraill, yn enwedig iechyd, yn cefnogi ysgolion, er mwyn lleihau’r stigma sy’n gysylltiedig â salwch iechyd meddwl a galluogi plant a phobl ifanc i gynnal eu lles emosiynol.