Emilia Meissner, Gweithiwr Prosiect (ar ran mam ifanc o Brosiect Unity)

Prosiect Unity  

Prosiect NYAS Cymru a ariannir gan Lywodraeth Cymru yw Prosiect Unity. Rydym yn cynnig cymorth cofleidiol cyfannol annibynnol i famau beichiog a newydd hyd at 25 oed ledled Cymru sydd â phrofiad o ofal.  

Rydym yn darparu cefnogaeth emosiynol, ymarferol ac eiriolaeth un i un gyda’r nod o gadw teuluoedd gyda’i gilydd, lle bynnag y bo modd. Rydyn ni’n cael ein harwain gan y person ifanc – y menywod ifanc sy’n penderfynu pa gymorth mae arnyn nhw ei angen gennym ni. 

Gwahoddir menywod ifanc sydd â phrofiadau tebyg i gwrdd â’i gilydd ac mae llawer yn ffurfio cysylltiadau a chyfeillgarwch trwy’r prosiect. Mae Prosiect Unity yn canolbwyntio’n benodol ar berthnasoedd iach a chydraddoldeb rhywedd. 

At ddibenion y blog hwn, fe fuon ni’n siarad ag un o famau ifanc Prosiect Unity am ei phrofiadau o gam-drin domestig. Dyma ei stori o blentyndod i oedolaeth, yn ei geiriau ei hun.   

Beth mae cam-drin domestig yn ei olygu i chi? 

  • Llawer o bethau. Cam-drin meddyliol, cam-drin corfforol. Mae cam-drin meddyliol yn waeth.  

Pryd gwelsoch chi gam-drin domestig am y tro cyntaf? 

  • Gyda pherthynas fy mam pan oeddwn i’n blentyn. Roedd yn teimlo’n normal. 
  • Oherwydd y cam-drin domestig, es i mewn i ofal pan oeddwn i’n ddeuddeg oed. Fe fues i’n byw mewn lleoliadau maeth a chartrefi plant. 
  • Ches i ddim cefnogaeth i ddelio â’r cam-drin domestig roeddwn i wedi tystio iddo pan oeddwn i’n blentyn. Roedd y gofalwyr maeth yn dda ond roedd pawb arall yn gwbl anobeithiol! Ces i fy mhasio o gwmpas drwy’r amser. 
  • Fe wnes i dynnu fy hun allan o’r system ofal yn 17 oed er mod i’n dal ar orchymyn gofal.  
  • Roedd y newid i annibyniaeth yn hawdd oherwydd rydw i bob amser wedi gofalu amdanaf fy hun. 
  • Dyw’r cam-drin domestig a brofais pan oeddwn i’n blentyn ddim yn effeithio arna i nawr oherwydd rydw i wedi bod yn y sefyllfa honno ac wedi profi cam-drin domestig drosof fy hun. 

Ydych chi wedi profi cam-drin domestig yn eich perthnasoedd eich hun?  

  • Ydw, gyda dau bartner gwahanol.  
  • Doedd fy nghyn-bartner blaenorol, tad fy mabi, ddim yn fy ngham-drin pan oedden ni gyda’n gilydd gyntaf. Roedd popeth yn iawn. Ond pan wnes i ddarganfod bod canser ar fy nhad, fe ddechreuodd fy ngham-drin, a dweud mai fe oedd piau fi, a mod i’n eiddo iddo fe. Ond dyw hynny ddim yn ymddangos yn rhy ddrwg o gymharu â fy nghyn-bartner diweddar. Dywedodd pawb arall eu bod nhw’n gallu gweld arwyddion rhybudd cynnar. Fe wnes i ffonio’r heddlu, a chafwyd ef yn euog o gam-drin domestig. Mae e’n cael dod allan ar fechniaeth.  
  • Roedd fy nghyn-bartner diweddar yn hŷn ac roedd gen i blentyn, felly roeddwn i’n meddwl ei fod yn mynd i weithio. Gofynnais hyd yn oed i’r gwasanaethau cymdeithasol wneud gwiriadau arno fe, ac fe ddywedon nhw wrthyf fi mai fe oedd â gofal llawn am ei ferch, felly doeddwn i ddim yn pryderu. Collodd fy nghyn-bartner ei fam i gam-drin domestig – llofruddiodd ei dad hi. Roeddwn i’n meddwl bod pethau’n mynd i fod yn iawn, ond roedd e’n gwybod yn union beth roedd yn ei wneud. Roedd yn fy ngham-drin, ac fe losgodd fy llaw.  
  • Rwy’n mynd i grŵp perthnasoedd iach ac fe ddywedais wrth y grŵp beth oedd wedi digwydd. Fe wnaethon nhw ffonio’r heddlu, ac yna fe roddwyd fy mab ar y gofrestr amddiffyn plant. Mae fy nghyn-bartner ar amodau mechnïaeth i beidio â bod yn yr ardal. Bu’n rhaid i mi adael fy nghartref i gadw fy mab, ond mae’n dal i fod ar y gofrestr amddiffyn plant. 
  • Pan adewais fy nghartref, rhoddodd y gwasanaethau cymdeithasol fi yn ôl gyda thad fy mhlentyn, ond roedd e’n dreisgar hefyd felly roedd rhaid i ni adael i aros mewn lloches cam-drin domestig. Roedd rhai o’r preswylwyr yn defnyddio cyffuriau felly roeddwn i a fy mab yn methu gadael ein stafell am bythefnos. Roedd y lloches yng nghanol unman, hanner awr i ffwrdd o siop. Roeddwn i’n teimlo’n bod gen i fwy o reolaeth yn y lloches nag yn y berthynas. Roedd y staff yn y lloches yn dda ond roedden nhw fel arfer yn y swyddfa. Rwy’n credu y dylai’r staff mewn llochesi fod yn bobl sydd wedi dioddef cam-drin domestig eu hunain, nid dim ond rhywun rhywun sydd ddim yn deall. Rydw i a fy mab wedi gadael y lloches nawr ac rydyn ni wedi bod yn aros gyda fy mam wrth i ni aros i gael cartref oherwydd ein bod ni ddim yn cael mynd nôl adref oherwydd y cam-drin domestig a brofais yno. Oherwydd bod fy mab ar y gofrestr amddiffyn plant, mae’n rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol ei weld bob deg diwrnod. Rwy’n lwcus bod gen i weithiwr cymdeithasol da sy’n fy nghefnogi, doedd fy ngweithiwr cymdeithasol diwethaf ddim yn dda. 
  • Er mwyn i’m mab ddod oddi ar y gofrestr amddiffyn plant, mae angen i mi fod yn byw yn fy nhŷ fy hun. Rydw i wedi llofnodi am dŷ ac mae fy ngweithiwr cymorth cam-drin domestig wedi trefnu i roi cloeon ar y drysau i’w wneud yn ddiogel. Pan fydd fy mab yn dod oddi ar y gofrestr, bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn ei wylio am dri mis arall cyn i’r achos gael ei gau.   

Ydy’r cam-drin domestig a brofwyd gennych chi yn dal i effeithio arnoch chi nawr? 

  • Ydy, mae’n cynhyrfu dy ben. Mae’n anodd i fi fod mewn perthynas nawr.  Ches i ddim cynnig cwnsela na therapi. Dydw i ddim yn ei hoffi ond i rai pobl mae’n gweithio felly rwy’n credu dyle fe gael ei gynnig i bobl sydd wedi bod trwy gam-drin domestig. 

Ydy bod mewn gofal fel plentyn wedi effeithio ar eich perthnasoedd fel oedolyn? 

  • Ydy, mae ar ben arna i. Dydw i ddim yn iach yn y pen. Mae wedi effeithio ar fy mherthnasoedd.   

Pa gefnogaeth sydd ei hangen ar fenywod ifanc â phrofiad o ofal i gadw’n ddiogel mewn perthnasoedd? 

  • Mae angen gweithio gyda phobl ifanc tra bod nhw mewn gofal i ddysgu am berthnasoedd iach. 
  • Mewn ysgolion, mae pobl yn dod mewn i siarad am gyffuriau ond nid am berthnasoedd… y gwir amdani yw na fydd pawb yn rhoi cynnig ar gyffuriau, ond bydd bron pawb yn ceisio cael perthynas. 
  • Mae’n bwysig gweithio gyda phobl ifanc nid yn unig i adnabod arwyddion cam-drin domestig ond hefyd i wybod sut i fod yn bartner da. Mae angen yr addysg honno ar fenywod hefyd.  

Beth gall Prosiect Unity ei wneud i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig? 

  • Prosiect Unity yw’r gefnogaeth orau sydd gen i. Maen nhw’n wir ar ein hochr ni.  

Un o Weithwyr Prosiect Unity yn Adfyfyrio 

Roedd yn amlwg o siarad â’r fenyw ifanc hon y gall cam-drin domestig effeithio ar unrhyw un, ar unrhyw adeg yn eu bywydau. Pan fydd plentyn yn dyst i gam-drin domestig yn y cartref yn ifanc, mae’r ymddygiad yn cael ei normaleiddio, sy’n golygu bod gweld arwyddion rhybudd cynnar a ‘baneri coch’ yn anodd pan ddaw’r amser iddyn nhw ffurfio eu perthnasoedd eu hunain. Eglurodd y fenyw ifanc y bues i’n siarad â hi y  

dylai atal cam-drin domestig ddechrau’n gynnar iawn mewn bywyd, cyn i bobl ifanc ddechrau cael perthnasoedd. Gall ysgolion chwarae rhan mewn atal cam-drin domestig trwy addysgu ymwybyddiaeth o berthnasoedd iach, sut i adnabod arwyddion cam-drin domestig, a pha gymorth sydd ar gael. 

 Ym Mhrosiect Unity, rydyn ni’n credu bod atal cam-drin domestig yn gyfrifoldeb i bawb, felly dylai pobl o bob oed a rhywedd fod yn rhan o drafodaethau am berthnasoedd iach. Gall cam-drin domestig ddifetha bywydau a dod â nhw i ben, o dan yr amgylchiadau mwyaf trasig. Trwy gynyddu ymwybyddiaeth o hanesion a chyngor pobl sydd â phrofiad bywyd o gam-drin domestig, mae gennym ni gyfle i ddod â cham-drin domestig i ben i bawb.  

Diolch i’r fenyw ifanc anhygoel hon am rannu ei stori gyda ni.  

Atgyfeiriadau/ymholiadau Prosiect Unity  

Gallwch chi atgyfeirio rhywun i Brosiect Unity trwy ddefnyddio’r ffurflen atgyfeirio ar-lein neu ffonio llinell gymorth NYAS ar 0808 808 1001.  

Os oes gennych ymholiadau, e-bostiwch projectunity@nyas.net. Mae rhagor o wybodaeth am Brosiect Unity ar gael ar wefan NYAS.

Rhyddhawyd y blog hwn yn rhan o’n cynhadledd ynghylch trais domestig, “Gartref y mae’r gofid: deall ac ymateb i gam-drin domestig”.