Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

22 Medi & 1 Rhagfyr 2023
09:30 – 12:30
Ar-lein

Mae’r cwrs hanner diwrnod hwn yn gwbl ryngweithiol ac yn cael ei gyflwyno gan un o hyfforddwyr arbenigol Plant yng Nghymru.

Pwrpas yr hyfforddiant yw rhoi hyder a gwybodaeth hanfodol i gyfranogwyr ar sut i ddiogelu plant a phobl ifanc yn eu hamgylchedd.

O ganlyniad i’r hyfforddiant bydd cyfranogwyr yn: 

  • Dysgu am y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau allweddol ar gyfer diogelu lles plant a phobl ifanc, gan gynnwys e-ddiogelwch 
  • Deall rolau gwahanol asiantaethau sy’n ymwneud â diogelu lles plant a phobl ifanc 
  • Deall arferion gwaith diogel sy’n hanfodol i gadw plant, pobl ifanc ac ymarferwyr yn ddiogel mewn lleoliad gwaith 
  • Nodi nodweddion gwahanol fathau o gam-drin plant a sut i adnabod y rhain yn ymarferol 
  • Gwybod sut i ymateb yn effeithiol i dystiolaeth neu bryderon bod plentyn neu berson ifanc wedi cael ei gam-drin, neu ei esgeuluso 
  • Gallu disgrifio egwyddorion a ffiniau cyfrinachedd a phryd i rannu gwybodaeth 

Pwy ddylai fynychu? 

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at unrhyw un sy’n gweithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn ystod eang o leoliadau gweithle a chymunedol.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.