Mae Kirsty Williams AC wedi cyhoeddi arweiniad statudol i wneud gwisgoedd ysgol yn fwy fforddiadwy, hygyrch, a niwtral o ran rhywedd.
Daw arweiniad newydd Llywodraeth Cymru i rym ar 1 Medi 2019 ac mae’n rhoi cyngor i gyrff llywodraethu a phenaethiaid ar faterion sy’n ymwneud â pholisi gwisg ysgol. Nid oedd yr arweiniad blaenorol a gyhoeddwyd yn 2011 yn rheoleiddiol, felly nid oedd yn rhaid i ysgolion gadw ato’n gyfreithiol.