O ystyried yr ansicrwydd yng ngwleidyddiaeth y DU a’r byd ar hyn o bryd, mae’r adroddiad hwn yn bwysig dros ben oherwydd, gyda lwc, bydd lleisiau pobl ifanc yng Nghymru yn torri trwy’r tensiwn gwleidyddol ac yn rhoi llwyfan fel bod lleisiau pobl ifanc i’w clywed uwchben yr holl sŵn.
Mae’n dynodi cynnydd democratiaeth yng Nghymru ac yn dangos bod gan bobl ifanc lais.
Mae’n brawf o ymroddiad ac ymrwymiad Senedd Ieuenctid Cymru i gael effaith er gwell ar fywydau pobl ifanc. Mae’n dangos bod pobl ifanc yn gwybod beth sydd orau i bobl ifanc a’u bod yn gallu cael effaith.