Ymgynghorwyd ar gynllun drafft ar gyfer y sector Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar yn 2014 oedd yn cyflwyno ein dyhead strategol 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu hwn. Ers yr ymgynghoriad, bu nifer o ddatblygiadau o bwys o ran polisïau sy’n ymwneud â’r sector, gan
gynnwys datblygu cyfres newydd o gymwysterau ar gyfer gofal plant a chwarae, ac ymrwymiad y Llywodraeth i gynyddu’r gofal plant a ddarperir i rieni sy’n gweithio sydd â phlant 3-4 oed.


Mae rhagor o waith wedi’i wneud i asesu effaith y polisïau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd yn strategol â dyheadau’r cynllun hwn. Mae’r cynllun terfynol yn amlinellu’r hyn sydd ar y gweill ar gyfer y gweithlu Gofal Plant. Chwarae a Blynyddoedd Cynnar dros y 10 mlynedd nesaf.
Fodd bynnag, mae’n canolbwyntio ar y camau a gymerir yn ystod y 3 blynedd cyntaf ac sy’n cyd-fynd â Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru – Ffyniant i Bawb.