Yn parhau o priosect LACE, edrychodd Priosect IAA ar wella profiadau a cyrhaeddiadau addysgol plant a phobl ifanc sydd a phrofiad gofal yng Nghymru.

Crynodeb y Prosiect

Ym mis Mai 2016 darparodd Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol cyfrif cyflymu effaith (IAA) i Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) iddynt adeiladu ar eu canfyddiadau ac awgrymiadau o briosect LACE ag i gael y negeseuon yma allan i gynulleidfaoedd amrywiol.

Roedd y priosect ‘Gwella profiadau addysgol a chyrhaeddiad plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal’ yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau, gweithdai, ymgyngoriadau, ac datblygiad ystod o ddeunyddiau i yrru #negeseuonIYsgolion pwysig.

Allbynnau’r Prosiect

Arweniodd Ymgynghoriadau Allbynnau Prosiect gyda plant a pobl ifanc sydd a profiad gofal, yn ogystal a cystadleuaeth barddoniaeth i rai sydd mewn ag wedi gadael gofal at ddatblygiadau o #negeseuonIYsgolion allweddol. Cafodd rhain eu cyflwyno mewn ffilm, fideo cerddoriaeth ac cyfres o bosteri. Gweithiodd CASCADE gyda Voices from Care Cymru, Care Forum Wales Looked After Children Network ac y diwydiant creiadigol i ddatblygu ystod o adnoddau i helpu rhannu y negeseuon allweddol ym i’r ysgolion.

Hefyd gweithiodd CASCADE gyda The Fostering Network i ddatblygu y cylchgrawn ar gyfer gweithwyr maeth, Disgwyliadau Mwy.