Gyda’r rhan fwyaf o blant yn dychwelyd i ysgolion, disgwylir y bydd atgyfeiriadau i’r Gwasanaethau Plant yn codi’n sylweddol. Fel y cafodd ei adrodd yn ddiweddar yn y Guardian, bydd ysgolion yn chwarae ‘rôl ganolog wrth sylwi ar esgeulustod a cham-drin’.

Ar ôl bron i chwe mis i ffwrdd o’r ystafell ddosbarth, mae plant y byddai angen cymorth a chefnogaeth arnynt o’r blaen wedi bod yn anweledig i staff mewn ysgolion. Yn ôl yr Adran Addysg, mae nifer yr atgyfeiriadau a dderbyniwyd gan y Gwasanaethau Plant ers i ysgolion gau oherwydd achosion covid19 wedi gweld gostyngiad dramatig o 18% (o’i gymharu â’r tair blynedd ddiwethaf).

Ysgolion yw’r corff sy’n cyfeirio amlaf ond un at y gwasanaethau statudol, ac yn bartneriaid hanfodol wrth ddiogelu ac amddiffyn ein plant. Caiff staff mewn ysgolion gyfle i arsylwi plant mewn amrywiaeth o leoliadau, y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth. Gall athrawon a staff eraill ysgolion fonitro ymddygiad plant bob dydd, dros gyfnod estynedig o addysg, gan arsylwi ar sut maent yn ymwneud â phlant eraill ac ag aelodau o’u teuluoedd. Maent mewn sefyllfa unigryw i nodi pryderon yn gynnar a rhannu gwybodaeth sy’n sicrhau bod plant yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt ar yr adeg gywir.

Mae’n hanfodol felly bod staff ysgolion yn cael eu cefnogi’n llawn i adnabod plant y mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt, a’u bod yn barod i ymateb i’r rhai sydd wedi bod yn byw gyda cham-drin neu esgeulustod, ac y mae angen eu hamddiffyn.

Mae adroddiad polisi newydd gan Dr Vicky Sharley (Prifysgol Bryste) yn tynnu sylw at ganfyddiadau astudiaeth ddiweddar a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru drwy law Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’r adroddiad yn edrych ar sut mae staff ysgolion yn nodi ac yn ymateb i blant y maent yn amau eu bod yn byw gydag esgeulustod (sef y rheswm mwyaf cyffredin y mae plentyn ar gynllun amddiffyn plentyn yn Lloegr). Mae’r adroddiad yn nodi argymhellion allweddol ar gyfer arferion gorau ar draws ysgolion a gwasanaethau amddiffyn plant, ac yn galw ar lunwyr polisïau i gefnogi ysgolion a gweithwyr cymdeithasol yn eu rolau unigryw ond cysylltiedig o fewn y system amddiffyn.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu dull newydd o ddatblygu perthnasaoedd rhyngasiantaethol effeithiol i wella canlyniadau diogelu. Mae’n hanfodol ar gyfer lles plant y codir unrhyw bryderon cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn gofyn am fwy o gefnogaeth i staff ysgolion ac i weithwyr cymdeithasol ddatblygu perthynas waith agos a sianelau cyfathrebu rhagorol. Mae argymhellion yn arbennig o berthnasol ar adeg pan fo plant yn dychwelyd i’r ystafell ddosbarth, wedi bod yn ‘guddiedig’ i wasanaethau am fwy na phum mis, ac mae disgwyl y bydd atgyfeiriadau’n codi.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn am Bolisi Bryste. Mae’r argymhellion allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • Dylid cefnogi Penaethiaid i sefydlu cymunedau dysgu effeithiol yn eu hysgolion fel y bydd staff yn datblygu gwybodaeth ac arbenigedd sy’n benodol i gyd-destun ar sut i ymateb yn effeithiol i esgeulustod plant o fewn lleoliad ysgol.
  • Dylai ysgolion recriwtio staff strategol sy’n dangos ymrwymiad i ddatblygu arbenigedd ym maes esgeulustod plant er mwyn hyrwyddo lles plant yn yr ysgol.
  • Dylai staff ysgolion sy’n adnabod y gymuned leol yn dda gael cyfleoedd i esbonio am fywydau plant y mae amheuaeth eu bod yn byw gydag esgeulustod.
  • Dylai gweithwyr cymdeithasol roi adborth i ysgolion fel mater o drefn ar ganlyniad atgyfeiriadau a wneir i wasanaethau amddiffyn plant a’r rhesymeg dros eu penderfyniad i beidio ag ymyrryd.
  • Dylai gweithwyr cymdeithasol sicrhau nad yw Cynadleddau Amddiffyn Plant yn cael eu cynllunio yn ystod gwyliau’r ysgol, ac y caiff gwybodaeth ei rhannu ag ysgolion newydd pan fydd plant yn trosglwyddo i addysg uwchradd.
  • Dylai cyfleoedd anffurfiol a ffurfiol fod ar gael i’r holl staff dreulio amser mewn asiantaethau partner i gefnogi datblygu gwybodaeth ac arbenigedd am ddarparu gwasanaethau.
  • Dylid defnyddio dogfen ganllaw trothwy’r awdurdod lleol fel dull o drafod myfyriol ar draws gwasanaethau, i lywio penderfyniadau proffesiynol a meithrin ‘iaith a rennir’, fel y gall staff yr ysgol fynegi pryderon yn fwy effeithiol yn eu hatgyfeiriadau.
  • Mae rôl Gweithiwr Cymdeithasol yr Ysgol yn ymateb i lawer o rwystrau rhyngbroffesiynol rhwng ysgolion a gwasanaethau amddiffyn plant a dylid eu sefydlu ym mhob awdurdod lleol.

Mae’r astudiaeth hon yn sail i ymchwil barhaus Dr Sharley sy’n ymchwilio i arferion amddiffyn rhyngbroffesiynol ledled y Deyrnas Unedig. Byddai’n hapus ateb unrhyw gwestiynau am yr astudiaeth hon neu drafod ei gwaith parhaus ac yn y dyfodol yn y maes hwn.

Dr Sharley, Prifysgol Bryste
Lawrlwytho’r adroddiad

Cyhoeddwyd y blog hwn yn gyntaf gan Bolisi Bryste.